Mae 10 diwrnod ar ôl i ni achub Saith Seren.
Mae angen codi tua £900 y mis yn rhagor (wedi cyrraedd oddeutu £2100 yn barod).
Rydym bellach yn chwilio am 5 busnes Cymraeg i ymrwymo £100 y mis.
Dim ond 5, achos am y £100 bydd pob un o’r 5 busnes yn cael:
- Hysbyseb amlwg parhaus yn Saith Seren.
- Hysbyseb bob wythnos yn ebost wythnosol SaySomethinginWelsh, sydd yn mynd at 12,000 o ddysgwyr (bydd yn hapus i gefnogi busnesau sydd wedi helpu cadw Saith Seren ar agor). Ia, am byth.
- Ail-drydar popeth o’u cyfrifon Twitter ar gyfrif @DailyWelshWords sydd efo dros 8000 o ddilynwyr ac ar gyfrif @SaithSeren efo bron i 2000. Ia, am byth.
- Sesiwn 2 awr wyneb-yn-wyneb i asesu cyfleon ychwanegol i hyrwyddo eich busnes arlein – adnabod rôl gwybodaeth yn eich busnes, cyfleon gwerthu ychwanegol i gwsmeriaid presennol, sut i gynyddu gwariant fesul pen gyda chwsmeriaid newydd a sut i annog eich cwsmeriaid i ail-ymweld â’ch busnes yn amlach
- 1 diwrnod y mis mewn grwp (wyneb yn wyneb neu gynhadledd fideo yn dibynnu ar y lleoliad) i drafod a gweithredu syniadau marchnata, cyfleon cyd-hyrwyddo, a marchnata arlein – gan gynnwys mireinio gwefannau, datblygu tudalennau gwerthu, defnyddio hysbysebion ar Facebook a Google Adwords – a’r cyfle i weld yr union ffigyrau (y da a’r drwg!) tu ôl i lenni marchnata SaySomethingin.com.
- Y cyfle i ddefnyddio Saith Seren ar gyfer digwyddiadau hyrwyddo a phartïon.
Fydd hynna cyfwerth â £100 y mis?
Mae’n amhosib addo, wrth gwrs.
Ond dylai paragraff at 12,000 o ddysgwyr bob wythnos gynhyrchu o leia’ £10 i £20 o werthiant bob wythnos – a bydd y grwp marchnata yn anelu at godi incwm bob un o’r 5 busnes am o leia’ £1000 y mis. Ar y lleiaf un, byddwch yn ennill mynydd o ewyllys da at eich busnes am geiniogau ar y bunt. Ar y gorau, byddwch yn ennill yr holl ewyllys da a chynyddu eich incwm ar yr un pryd.
Ydach chi’n gallu gweld y potensial?
Cewch gysylltu trwy ebost at saithseren@SaySomethinginWelsh.com
Ond peidiwch ag oedi – y cyntaf i’r felin gaiff falu, a does dim modd cynnig bob dim uchod i fwy na 5 busnes…