Dwi ddim yn byw yn Wrecsam.
Dwi ddim yn byw yn agos i Wrecsam.
Y gwir ydi, prin iawn bydda i hyd yn oed yn ymweld â Wrecsam, er bod gen i ffrindiau da acw.
Pam, felly, talu £10 y mis i gadw Saith Seren (y ganolfan Gymraeg a thafarn cyd-weithredol) yn agored?
Mae’n agos at y Fro Gymraeg
Na, dwi ddim wedi drysu. Er i mi fynd ar goll yn eithaf gyson ar yr achlysuron prin bydda i’n teithio i Wrecsam, mae gen i syniad go lew lle mae erbyn hyn.
Ond os dan ni’n edrych ar ganran y boblogaeth ganwyd yng Nghymru sydd yn siarad y Gymraeg (yr unig ystadegyn sydd yn awgrymu canran y Cymry sydd yn siarad y Gymraeg) – hynny yw, os edrychwn ar realiti o dan flanced mawr y mewnlifiad sydd wedi bod – mae’r Fro Gymraeg mwy neu lai yr un siâp rŵan ag oedd hi hanner ganrif yn ôl.
Dwi’n credu bod hyn yn bwysig – yn seicolegol ac yn gymdeithasol – ac felly bod rhaid ymdrechu i gadw llwyfannau amlwg i’r Gymraeg yn y parthau lle mae’n rhy hawdd credu bod ni wedi colli.
Mae’n fenter gyd-weithredol
Tydy’r Saith Seren ddim wedi cael cefnogaeth o gyfeiriad y Llywodraeth – efallai bydd hynny’n newid rŵan, gyda’r galwadau o gyfeiriad Cymdeithas yr Iaith a Dyfodol i’r Iaith – ond i mi, mae’r diffyg hyd yma yn ogleuo’n wael. Dwi’n cofio gwrthwynebiad budr y Blaid Lafur i ymgais uchelgeisiol gwych Pol Wong i godi canolfan rhyngwladol Kung-Fu yn Llangollen – ac mae’n edrych i mi fel na fydd cefnogaeth oddi wrth y wladwriaeth i unrhyw beth sydd yn cryfhau’r iaith Gymraeg yn Wrecsam.
Boed felly neu beidio, mae gen i barch mawr iawn at bobl sydd yn codi ar eu traed ac yn gwneud i bethau ddigwydd heb gefnogaeth y wladwriaeth – mae’n sicr o fod yn iachach yn y tymor hir. Mae’r gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi cymaint o’u hamser a’u harian ei hunain i mewn i Saith Seren yn haeddu cefnogaeth.
Mae’n fodel i Gymru gyfan
Dan ni wedi hen arfer cwyno am y Llywodraeth (ym Mae Caerdydd neu San Steffan) a chwffio yn ei herbyn, yn mynnu newid.
Ond i mi, y newid gorau ydi’r newid nad ydi’r Llywodraeth yn gallu rhwystro – newid sydd ddim yn dibynnu ar arian cyhoeddus neu newidiadau yn y gyfraith – ac yn hynny o beth, dwi’n credu bod Saith Seren (fel Canolfan Tŷ Tawe) yn fodel i’r genedl gyfan.
Os bydd decpunt y mis gen i yn gallu helpu cadw fflam amgen yn fyw, mae’n werth bob ceiniog.
Mae’n ddatganiad o hyder a gobaith
Dwi’n cofio trafodaethau hirion (pan o’n i’n rhoi llawer o fy amser i mewn i waith Cymuned) am bwysigrwydd y Fro Gymraeg, a gofid pobl oedd yn anghytuno efo Cymuned y byddai ffocysu ar y Fro yn arwain at gefnu ar yr ardaloedd lle nad oedd y Gymraeg yn iaith gymunedol amlwg.
Mi o’n i’n credu adeg hynny, ac yn dal i gredu, bod angen ffocws ar y cymunedau Cymraeg – bod colli nhw yn sicr o arwain at dranc yr iaith.
Ond mi o’n i hefyd yn credu adeg hynny bod angen ffocws ar adennill ardaloedd – ac yn dal i gredu hyd heddiw. Nid cilio i Uwchmynydd ydi dyfodol yr iaith Gymraeg, ond sefydlogi a chryfhau yng Ngwynedd, Môn, Ceredigion, Sir Gâr, ac yna estyn allan yn gryfach i’r ardaloedd sydd yn ffinio’r Fro.
Er mwyn gwneud hynny’n llwyddiannus, bydd angen llefydd fel Saith Seren – fel y mae cenedlaetholwyr a siaradwyr Basgeg wedi profi wrth feddiannu’r diwydiant adloniant yng ngogledd Gwlad y Basg. Yn hynny o beth, mae £10 yn teimlo fel buddsoddiad hynod werthchweil.
Mae colli pethau da yn heintus
Dan ni’n byw mewn adeg heriol. Mae sustemau mawr y byd wedi siglo – wedi dangos bod modd iddyn nhw fethu. Mae hyn yn fêl ar fysedd gwleidyddion adain-dde sydd isio cwtogi ar y wladwriaeth. Os na fyddwn ni’n cofio’r ysbryd cydweithredol wnaeth arwain at dwf anhygoel ysgolion a chapeli canrif a mwy yn ôl, yr ysbryd roedd i’w weld mewn mudiadau fel Adfer, a hynny ar frys, byddwn ni’n colli llawer iawn o’r hyn sydd yn annwyl i ni.
I mi, felly, mae £10 y mis i Saith Seren yn garreg gyntaf yn y wal.
Os wyt ti’n gallu fforddio £10 y mis hefyd, mae modd ymrwymo i gyfrannu (fydd yr un ceiniog yn cael ei dynnu os na fydd yr ymgyrch yn llwyddiannus) yn fan hyn:
https://dashboard.gocardless.com/api/paylinks/0W52J43PPG
neu ddarllen ychydig yn fwy am yr ymgyrch yn fan hyn:
https://saysomethingin.wordpress.com/2015/04/16/saith-seren/
Mae 18 diwrnod i fynd tan y dyddiad cau. Mae angen tua 5 cefnogwr newydd bob dydd i gadw’r canolfan yn agored.
I mi, mae dal i edrych yn ennilladwy…