
Roeddwn i’n hwyr iawn yn ymaelodi efo Plaid Cymru, er mawr syndod i fi fy hun. Roedd bwriad gen i ymaelodi yr un adeg i mi ymaelodi efo Cymdeithas yr Iaith a Cymuned, yn Eisteddfod Dinbych 2001 – yr ail dro i mi fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol, ac wedi paratoi’r frawddeg ‘Gaf i ymaelodi, os gwelwch yn dda?’ yn ofalus iawn. Wedi rhedeg allan o Gymraeg a hyfdra am y diwrnod cyn i mi gyrraedd stondin y Blaid, mae’n siwr.
Wedyn, dros y blynyddoedd, roedd wastad rhywbeth yn codi, bob tro roeddwn i’n cael hyd o bapurau ymaelodi, oedd yn gwneud i mi ail-feddwl. Y sail i bob dim, mae’n siwr, oedd fy niffyg ffydd dybryd mewn pleidiau gwleidyddol; roedd perthyn i fudiadau protestio yn teimlo’n haws ac yn fwy naturiol. Mi es i allan i ganfasio o gwmpas Porthmadog dros Alun Ffred yn 2003, ond roedd nocio ar ddrysau yn teimlo’n llai o ymrwymiad nag ymaelodi, mewn ffordd od.
Yn y blynyddoedd wedyn, cododd bob math o ffraeo rhwng Cymuned a’r Gymdeithas, a Cymuned a’r Blaid, a Cymuned a’r Blaid Lafur (heb sôn am rwng aelodau Cymuned eu hunain!) ac er i mi lwyddo i gael ambell sgwrs positif efo aelodau blaenllaw y Gymdeithas pan gefais fy hun yn agosach nag o’n i wedi disgwyl i galon Cymuned, dim ond y Comisiwn Cydraddoldeb Hil a fu oedd yn fodlon trafod efo ni yn ddigon ystyrlon ac yn ddigon cyson i ni ddod i nabod ein gilydd yn ddigon da i gydweithio’n ffurfiol. Mae dal gen i ambell i lythyr annifyr oddi wrth aelodau’r Blaid dwi’n gobeithio mod i wedi dod i’w nabod rhywfaint yn well erbyn hyn; ond wrth gwrs dwi’n deall nad oedd hynny’n gyfnod hawdd i neb.
Ond pleidlais ydi pleidlais, ynde?!
Hynny yw, wnes i sylweddoli cyn yr etholiad diwethaf am arweinydd i’r Blaid bod gen i farn eithaf cryf ar y pwnc, ac er pob ansicrwydd am wleidyddiaeth yn gyffredinol, roeddwn i’n credu y byddai’n llesol i’r genedl pe bae’r Blaid yn mynd i gyfeiriad penodol.
A dyna sylweddoli mai rhagrith byddai credu hynny, ond gwneud dim yn ei gylch, felly ymaelodais a bwrw pleidlais.
Dyna oedd yr hanes ym Mhwllheli nos Wener diwethaf, hefyd.

Dw i wedi ymddiheuro wrth gadeirydd fy nghangen leol am na fydda i’n debyg o fynychu cyfarfodydd – oherwydd diffyg amser yn anad dim, ond hefyd yr hen ddiffyg ffydd ‘na. Dw i wedi bod yr un mor onest efo rhai pleidwyr mawr – dydy gwrthod helpu ddim yn teimlo’n braf, ond dwi’n credu bod rhaid i mi ffocysu ar fy musnes a fy nheulu ifanc am rwan.
Ond roedd ffrind da i mi, Mabon ap Gwynfor, wedi cynnig ei enw fel ymgeisydd i olynu Elfyn Llwyd, ac wedi gofyn am fy mhleidlais – ac nid yn unig oedd yr hystings ym Mhwllheli cwta deng munud o daith i mi, ond dw i’n credu’n gryf y byddai Mabon efo’r hyder a’r gallu i wneud gwahaniaeth pwysig i’r Blaid.
Ond dyna lle mae fy ansicrwydd yn cychwyn
Darllenais yr holl waith papur, a’r ebyst, derbynais y galwadau ffôn gan y rhai mwyaf weithgar, ond ar y ffordd i’r hystings o’n i’n gwybod yn iawn bod y tri oedd gen i brofiad o weithio neu gydweithio efo nhw, sef Mabon, Liz Saville a Dyfed Edwards, roedd y tri y byddwn i’n dewis. Roedd fy mhrofiad ohonyn nhw yn gwneud i mi gredu y byddan nhw’n medru cyflawni’r swydd yn dda, er mod i’n gweld tân, angerdd a chyffro ychwanegol yn perthyn i Mabon (fel y byddwn i, mae’n siwr).
Ond roedd o am gymryd clincar o berfformiad gan rywun arall, rhywun o’n i’n nabod o fymryn o waith sgwennu a phum munud o siarad, i newid fy meddwl.
Holais gwestiwn yn yr hystings am ddefnydd o dechnoleg newydd a rhwydweithiau cymdeithasol – roedd awydd gref gen i weld bod pobl o fewn y Blaid yn ymwybodol o rai o’r camau technegol cymerodd yr SNP wrth wneud cymaint yn well na’r poliau piniwn yn eu hetholiad diwethaf – ac o’n i’n gwybod bod Mabon wedi bod yn gwneud gwaith tebyg, yn defnyddio cronfeydd data i ddeall aelodau a chefnogwyr yn well, i dargedu ardaloedd, i wneud y gwaith manwl bwysig mae technoleg yn gwneud yn bosib.
Wnaeth yr ymateb fy siomi – pawb yn cytuno ei bod hi’n elfen bwysig, neb yn datgelu sut yn union byddant yn gwneud defnydd ohoni – wnaeth hyd yn oed Mabon ddim mynd i fanylion, ond efallai roedd hynna’n ddoeth, achos dim y genhedlaeth ifanc oedd yn fwyafrif yn y neuadd.
Ond mi ddywedodd Liz rywbeth wnaeth daro fi – bod hi’n bwysig cofio yr angen i ganfasio wyneb yn wyneb (sydd yn hollol wir) a bod er gwaetha’r llythyru, fyddai’r dewis o’n blaenau ni y noson honno ddim yn iawn heb y cyfle i glywed pobl yn annerch, yn siarad wyneb a wyneb (cymaint â bod modd mewn dorf).
Roedd pawb yn y cynulleidfa i’w gweld yn cytuno.
Wedi’r cyfan, does neb isio meddwl bod nhw’n colli nos Wener heb reswm teilwng.
Ond fedra i ddim gweld hi.

Wnes i bleidleisio ar sail gwybodaeth am yr unigolion eu hunain – eu cryfderoedd, eu hegwyddorion, eu harferion – sut fyddai pum munud o siarad slic, ac ambell soundbite llwyddiannus, wedi newid fy meddwl?
Pe bae pum munud o siarad slic ac ambell soundbite llwyddiannus wedi newid fy meddwl, fyddai hynna wedi bod yn beth da?
Ydy’r pum munud yna, a’r llythyrau, yn dystiolaeth digonol i bobl nad oedd yn nabod yr un o’r ymgeiswyr wneud penderfyniad doeth?
Methu cytuno hyd yn oed efo blogwr o fri!
Diolch i Mabon am sôn amdano fo ac am bwyntio fo allan i mi, ces i’r cyfle am air sydyn efo Cai Larsen, sydd yn sgwennu un o flogiau gorau yn y Gymraeg, Blog Menai.
Es i ati i fwydro pen Cai rhyw ychydig – bach yn starstruck, efallai, wedi darllen cymaint o’i sgwennu ers blynyddoedd – ac yn mwmian yn ddigyfeiriad am fy niffyg ffydd mewn pleidiau gwleidyddol (ia, yn union y math o sgwrs dylai rhywun gychwyn arni mewn cyfarfod plaid wleidyddol!).
Mae’n rhaid uno o gwmpas y syniadau dan ni’n medru rhannu, a gweithio o fewn y drefn er mwyn newid y drefn, roedd neges Cai – digon cywir, digon call.
Ond oes angen pleidiau pan mae modd i bob penderfyniad yn San Steffan gael ei gymeryd trwy bleidlais genedlaethol, gofynnais – yn benderfynol o ffitio i mewn, fel arfer.
‘Wyt ti isio byw mewn gwlad y Daily Mail, a chael crogi yn ôl, a hel bobl estron adref?’ atebodd Cai.
Wel, nac ydw. Pwynt teilwng iawn. Dim o gwbl; ac mi fyddwn i’n rhannu’r pryderon hynny.
Ond dal arni am eiliad.
Tydy hynny’n dweud bod gynnon ni ofn democratiaeth? Bod gynnon ni ddim ffydd yn y bobl, felly bod rhaid dewis cynrychiolwyr dim cymaint i’n cynrychioli ag i’n hamddiffyn yn erbyn y mwyafrif peryglus?
Mae democratiath yn dipyn o fuwch sanctaidd, wrth gwrs. Dydy tynnu sylw at y gagendor anferth rhwng democratiaeth lle mae un person i fod i gynrychioli degau o filoedd (sydd wrth gwrs yn amhosib) a democratiaeth Athens, roedd yn golygu bod pawb yn gallu lleisio barn (wel, pawb doedd dim yn ferch, yn gaethwas, yn dlawd ac yn y blaen), ddim yn meddalu neb sydd wedi penderfynu dy fod ti’n ‘wrth-ddemocrataidd’.
Mae’n hwyr. Dw i ‘di blino. Dwi’n fawr callach am beth sy’n iawn.
Dwi’n gobeithio y bydd Mabon yn cael yr enwebiad, a dwi’n gobeithio y bydd o’n medru gwneud gwahaniaeth gwerthchweil yn nyth wiwerod San Steffan.
Ond:
Os ydi democratiaeth pleidiol yn ffordd i’n hamddiffyn ni rhag derfysg y mwyafrif, siawns bod well ffordd i ddewis ein hamddiffynwyr na ryw X-Factor o siarad yn huawdl, ateb yn chwim ac edrych yn daclus?
Ai dyna’r rhinweddau pwysicaf? Wir yr?
Os mai dewis y salesman gorau ydy democratiaeth pleidiol, efallai mai dyna pam bod gen i gymaint yn fwy o ddiddordeb mewn pethau mae unigolion a chymunedau yn medru gwneud i wella eu sefyllfeydd eu hunain heb orfod gwerthu dim i neb mewn siambr sgleiniog ym mhell i ffwrdd.
Mae’n siwr bod Cai yn hollol iawn bod rhaid chwarae’r gêm i ennill rheolaeth llwyr dros bob teclyn grym posib. Ond yn y cyfamser, dwi’n gobeithio y ga i fyw i weld mwy a mwy o gymunedau, yn enwedig y rhai Cymraeg, yn deffro i gymaint o rym maen nhw’n medru creu i’w hunain, heb ganiatad neb.
