Cais diddorol iawn ar greu rhwydwaith – a gwir gwerth methiannau

rhwydwaithWedi rhywfaint o fwydro cychwynnol yn fan hyn am bwysigrwydd cysylltu pobl, fydd o ddim yn dy synnu di i mi fod wrth fy modd o weld syniad newydd yn ymddangos ar Twitter heddiw – @YRhwydwaith sydd yn arwain at http://yrhwydwaith.com – er mwyn ‘hyrwyddo cynnwys digidol Cymraeg’.

Mae’r syniad wedi’i ddatblygu gan Huw Marshall o S4C, Rhodri ap Dyfrig o enwogrwydd Nwdlaidd a’r Aelod Cynulliad Leighton Andrews – cyfuniad diddorol iawn o bobl (a chyfuniad o bobl ddiddorol iawn)!

rhwydwaith2

A dwi’n falch iawn hefyd bod y wefan yn defnyddio WordPress, sydd yn gwneud hi’n hawdd iawn ei dilyn.

O ran dolenni, mae’r ffocws i’w weld yn bennaf hyd yma ar sefydliadau mawrion, ond gwn o brofiad pa mor anodd mae’n medru bod i gasglu manylion am bethau mwy annibynnol, felly hei lwc byddan ni’n gweld mwy o gysylltiadau annibynnol yn cael eu hyrwyddo yno yn y dyfodol.

Bydda i’n gwylio’r gwaith gyda chryn diddordeb – mae’n edrych fel bod potensial yna i greu rhwydweithiau Cymraeg ar gyfer y lleol a’r cenedlaethol, sydd hanner beth dwi’n credu bod angen, a gobeithio wir y bydd yn llwyddo.

Byddai’n ddiddorol gwybod mymryn yn fwy am berchnogaeth y wefan, modd bynnag – ydi hi’n dod o dan ymbarél S4C neu’r Llywodraeth, ynteu’n sefyll fel prosiect annibynnol ei hun gan y tri sylfaenydd?

***

Rwan ‘de, roeddwn i’n bwriadu symud ymlaen at rai enghreifftiau o arfer da byddai rhwydweithiau llwyddannus yn medru rhannu – ond mae’n ymddangos nad ydw i wedi cael digon o gwsg yr wythnos hon i fod mor o gwmpas fy mhethau, felly dyma dilyn trywydd gwahanol.

Google Fail Whale

Un o’r pethau gorau dw i ‘di gweld ar TechCrunch oedd ‘Fail Week‘, nol ym mis Awst eleni, lle roedd llond llaw o entrepreneuriaid yn fodlon trafod eu methiannau.

Dwi’n credu bod hynna’n bwysig iawn – un o’r problemau tu ôl diffyg mentro ydy ofn methu, sydd yn medru bod yn ofn cryn dipyn yn gryfach mewn cymdeithas cymharol bychan fel y gymdeithas Gymraeg.

Yn ffodus iawn, does dim angen llawer o bobl i drafod methiannau yn y Gymraeg, er mwyn dangos nad ydy methiant  yn rhywbeth i fod ag ofn ohono fo.  Byddai’n braf iawn clywed oddi wrth pobl eraill, ond mae gen i hen ddigon o fethiannau fy hun i’n cadwn ni i fynd am beth amser!  A’r pwynt pwysig ydy: taswn i wedi cywilyddio ar ôl unrhyw un ohonyn nhw, a chilio i fywyd distaw, efo llai o risg, fyddwn i ddim erbyn hyn yn gyd-sylfaenydd cwmni dysgu ieithoedd sydd yn dechrau gwneud yn eithaf da.

sgwarnog  I gychwyn, felly, dyma hanes gryno un o fy methiannau       cynharaf – yr hen Sgwarnog.com.

Cychwynnais Sgwarnog.com ym mis Tachwedd 2003 –         wedi cyrraedd y pwynt lle oedd fy Nghymraeg i mwy neu   lai yn ddigon da i mi fod yn gynyddol ymwybodol o’r diffygion lu o ran gwasanaethau Cymraeg.  Roeddwn i wedi bod yn defnyddio Hotmail ers tua 1998 os cofiaf yn iawn, ond wrth gwrs doedd dim sôn am ryngwyneb Cymraeg.

Wnes i fymryn o ymchwil (mwy nag arfer, deud y gwir!) a chanfod ambell system oedd yn galluogi rhywun i redeg trefn ebost ei hun – ac felly, yn llawn hwyl a sbri, es i ati i dalu tua £30 am logo, trefnu tipyn o hosting rhad (ia, ar weinydd wedi’i rhannu!) am ryw £5 y mis, prynu’r enw sgwarnog.com am rywbeth fel £20 y flwyddyn, mynd ati i gyfieithu’r rhyngwyneb mewn ffordd – wel, gad i ni fod yn garedig a’i galw hi’n ‘anffurfiol’ – a thaflu i fyny gwefan fach yn deud dyma hi, punt y flwyddyn i chi syr.

Byddai 7 o bobl, dwi’n cofio meddwl, yn gwneud yn iawn am y costau, ac unrhyw beth tu hwnt i hynny yn elw – efallai byddai miloedd o bobl yn teimlo’r un ffordd, a chreu cwmni fach byddai’n buddsoddi mewn Cymreigio mwy a mwy o’r We!

Gwersi Sgwarnog.com

Ar ei anterth, roedd tua 50 o Sgwarnogod – a rheiny’n dweud eu bod yn hapus iawn efo’r drefn.

Svenska: Illustration på sida 5 ur boken Olive...

Gwers 1mae llawer o bobl Gymraeg yn meddwl y dylen nhw gael pob dim yn y Gymraeg am ddim, am ei fod yn hawl – dwi’n cofio trafodaeth bywiog ar hyn ar Maes-E!  Dwi’n cydymdeimlo eithaf dipyn efo’r barn hwn – mae llawer o bethau fel mynediad at wasanaethau cyhoeddus yn sicr yn fater o egwyddor – ond o ran y sector preifat, doedd dim hawl gen i fod efo cyfrif Hotmail.  Roedd o’n bodoli oherwydd bod marchnad (o fath – neu ffydd mewn marchnad i ddod).

Mae galw am wasanaethau cyhoeddus yn y Gymraeg yn hanfodol hyd heddiw – ond mae’r diffyg tuedd i gefnogi gwasanaethau preifat Cymraeg am eu bod yn Gymraeg yn rhan o’r rhesym dan ni’n gweld cyn lleied o fusnesau yn rhedeg trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig, er gwaethaf marchnad o dros hanner filiwn o bobl.

...Q is for Queue...

Gwers 2mae ffasiwn peth â chefnogaeth i’r cwsmer!

 Roedd y 50 o Sgwarnogod yn gwneud yn iawn am fy nghostau  heb  broblem, ac yn talu’n iawn am o leiaf 2 neu 3 awr o fy amser  fesul  mis.  Ond roedd delio efo sbam, delio efo problemau eraill  sustemau gwahanol, newid at sustemau eraill ‘gwell’, cyfieithu  rhyngwynebau tro ar ôl tro, a helpu pobl doedd dim yn deall sut  oedd ebost i fod i weithio yn cymryd mwy fel 2 neu 3 awr bob  dydd!

Erbyn i mi weld nad oedd y niferoedd am dyfu llawer mwy,  hyd  yn  oed wrth gynnig enwau amgen fel @lladdnadroedd, aeth  yn  amlwg i mi greu y ffordd ddelfrydol i mi arteithio fy hun:  system  yn y Gymraeg o’n i’n credu dylai fodoli, ar gyfer tua  hanner cant  o bobl, oedd yn llyncu fy holl amser ac weithiau yn fy  neffro fi  hanner nos efo alerts am downtime – a finnau’n rhy  styfnig o lawer i gau system Cymraeg am fod wedi mynd yn faich.  Do, mi ddaeth dyfodiad Gmail a 2GB o le fel tipyn o ryddhad (er i ni gyd orfod aros rhai blynyddoedd mwy cyn i Gmail wneud yn iawn am addewid i ddarparu’r system yn y Gymraeg).

subscribe
subscribe (Photo credit: stargardener)

Gwers 3 – mae tanysgrifiadau yn gweithio.

Yn gwybod pa mor ddiog o’n i fy hun am ddileu archebion banc, roeddwn yn gobeithio y byddai Sgwarnogod oedd yn talu £1 y mis trwy archeb banc yn dal ati i wneud hynny mwy neu lai am byth – ac felly bu.  Roedd rhaid i mi dreulio dwy neu dair blynedd yn cysylltu efo rhai o’r ffyddloniaid yn erfyn iddyn nhw ddod â’u taliadau i ben ar ôl i’r system beidio bodoli dim mwy!

***

Felly, wnes i ddysgu’r tair gwers a symud yn syth ymlaen i wneud rhywbeth llawer iawn gwell y tro wedyn, do?

Paid â bod yn wirion!

Wrth gwrs wnes i ddim.  Dwi’n llawer rhy styfnig i ddysgu gwersi amlwg yn gyflym, fel bydd straeon eraill o fethiant yn dangos yn y dyfodol.

Ond o leia ga i hawlio’n onest bod Gwersi 2 a 3 wedi bod yn rhan bwysig o SaySomethinginWelsh – dw i ddim yn dysgu’n gyflym, ond mi ydwi’n dysgu yn y pen draw, os ti’n rhoi peltan digon caled i mi yn ddigon aml…:-)

Advertisements

2 o sylwadau am “Cais diddorol iawn ar greu rhwydwaith – a gwir gwerth methiannau

  1. Ww, efo’r holl brysurdeb yn fy mywyd yn ddiweddar dwi ddim wedi bod yn cadw fyny efo Twitter, ond mae’r Rhwydwaith yn edrych yn addawol iawn, diolch am dynnu fy sylw ato fo!

    A diddorol iawn oedd darllen hanes Sgwarnog hefyd 🙂

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s