Beth fyddai’r pwrpas cysylltu pobl gyda’i gilydd? Beth sydd i’w ennill o’i wneud?

Yn y post blaenorol, cychwynnais ar hyd llwybr yn gofyn sut fath o beth byddai rhyddid y mae modd i ni gymryd heb ganiatad neb arall – a’r fan gychwyn roeddwn yn cynnig oedd yr angen i gysylltu pobl gyda’i gilydd.

friends

Yn amlwg, mae pawb wedi’i gysylltu mewn rhyw ffordd yn barod – cysylltiadau ydy cymdeithas, wedi’r cyfan. Y teulu, y pentref, y tref, ffrindiau – dyna sy’n creu fframwaith ein bydoedd personol.

Mae rheolaeth yn fater o gysylltiadau, hefyd – patrwm o gysylltiadau ydy byddin, wrth gwrs, a fframweithiau gweinyddol. Felly esblygodd unedau grym o faint gynyddol trwy hanes – a dyna ddyfodiad y wasg, haen newydd o gysylltiadau, cryfhaodd twf y nation state – beth ydy hynny yn y Gymraeg, dwed? Y genedl fel gwladwriaeth? Rhaid bod ffordd well i’w ddweud. [O – cenedl-wladwriaeth, felly – diolch i Bruce arlein!]

Gwelodd yr ugeinfed ganrif ddatblygiad radio a theledu – cysylltiadau ydy cyfryngau, wrth gwrs – cysylltiadau sydd mwy neu lai yn gweithio mewn un cyfeiriad yn unig, yn darlledu yn hytrach na’r cyfathrebu dwyffordd sydd yn creu teulu a phentref a ffrindiau. Mae radio a theledu wedi helpu creu a chryfhau syniad y genedl-wladwriaeth – wedi mynd yn rhan annatod o’i chynnal.

dimcymru02
Eurostat Yearbook map 2004

A dyna lle gwelwn Gymru ar ei gwannaf.

Mae dychymyg yn rhan mor fawr o greu cenedl – a chysylltiadau sydd yn cryfhau’r dychymyg. Y tu hwnt i rwydweithiau lleol a phersonol, o le daw’r rhan helaeth o’r hyn dan ni’n derbyn o ran y drefn ddarlledu, a’r wasg? Ia, o Loegr ac America, wrth gwrs; a dyna pam mae’n haws i gymaint o Gymry a Chymry di-Gymraeg ddychmygu ‘Prydain’ nag y mae o ddychmygu Cymru.

Mae cenedl-wladwriaeth yn bodoli (ac yn cael ei hail-gynhyrchu’n ddi-baid) ar ddwy lefel erbyn hyn – cysylltiadau lleol, a’r drefn ddarlledu.

Mae Cymru, fel syniad amgen, yn bodoli ar y lefel lleol ar raddfa digonol i fod heb ddiflannu, ond prin mwy na chysgod ydy hi o ran y drefn ddarlledu – mewn gwrth-gyferbyniad llwyr a’r Alban.

Dyna’r ateb cyntaf i’r cwestiwn ‘Beth sydd i’w ennill?’ – dim ots. O fethu gwneud, collwn bob dim.

Dim rheidrwydd yn unig dylai ein gyrru ni, modd bynnag. Mae rhywbeth arall.

Gobaith.

Ers cwta pymtheg mlynedd, mae’r We wedi creu trefn newydd ar gyfer cysylltiadau.

Ac mae’n cynnig dwy gyfle arbennig i ni – dau beth hollol newydd.

ffonMae’n cynnig y cyfle i greu trefn gyfathrebu ddwyffordd, fel gwelwn rhwng ffrindiau wyneb yn wyneb, ar raddfa anferth y cyfryngau.

Mae hefyd yn cynnig llwyfannau cyfathrebu mae modd gosod heb gyfalaf anferth. Heb fawr o gyfalaf o gwbl, mewn llawer o achosion.

Tasen ni wedi llwyddo i greu trefn gysylltu fel soniais o’r blaen (ar gyfer y Cymry a’r Cymry di-Gymraeg, yn lleol ac yn genedlaethol) beth byddai’r buddion?

Yn gyntaf ac yn bwysicaf, byddai’n creu gofod i Gymru fel syniad. Dim trwy weithio fel math o wrth-bropaganda, dim ond trwy greu gofod lle mae’r trafodaeth yn ffocysu yn naturiol ar Gymru – ac mi fyddai hynny fel rhoi dwr i flodyn.

Yn ail – ac efallai mai hyn ydy’r pwysicaf, wedi’r cyfan! – byddai’n medru creu gobaith. Mae’r cyfryngau torfol yn ffocysu ar werthu papurau neu danysgrifiadau, yn hyrwyddo Prydeindod bron (weithiau) heb feddwl – yn sgandals a selebs, yn cakes a circuses i gyd. Byddai patrymau cysylltu cynhenid yn medru ffocysu ar enghreifftiau o lwyddiant – syniadau economaidd, cymdeithasol, creadigol sydd wedi profi llwyddiant mewn cymunedau a gwledydd bychain eraill. Mae’r byd yn llawn syniadau – byddai dod a’r rhai mwyaf berthnasol at bobl Cymru heb orfod mynd trwy hidlen Lloegr yn agor drysau newydd hynod ddiddorol.

Yn drydydd – o, na, sori, hyn ydy’r pwysicaf – byddai’n rhyddhau ein gallu i greu.

Dan ni’n gwybod beth ydy stori Cymru ar gyfer cyfryngau Lloegr – gwlad fach, gwlad dlawd, gwlad sal, gwlad heb entrepreneuriaid – fel hyn mae pob cenedl-wladwriaeth yn dychmygu ac yn disgrifio unrhyw genedl fach (heb fod yn wladwriaeth) o fewn ei ffiniau.

Solidarity Mural

Ond mae dros dair miliwn ohonom ni.

Mae’r gallu i greu ac i ddysgu gynnon ni – ond mae’n rhaid i ni gydweithio er mwyn tyfu a chryfhau, ac mae’n rhaid i ni gyd-drafod cyn i ni fedru cyd-weithio. A dyna pam mae creu trefniadau cyfathrebu i ni ein hunain mor gyfangwbl, hanfodol bwysig.

Dyna pam dwi wth fy modd gweld ymdrechion, arbrofion, fel hyn gan Nwdls.

Dyna pam bydda i wrth fy modd parhau i drafod ac i arbrofi gyda sustemau cysylltu pobl yng Nghymru.

Ond bydd angen trafod pethau gwahanol hefyd, neu fydd y blog hwn yn mynd yn dôn gron braidd.  Ymlaen dros yr wythnosau nesaf felly i edrych at fodelau annibynnol ar gyfer gwahanol pethau o werth – y math o fodelau byddai modd rhannu ac hyrwyddo pe bae’r sustemau cyfathrebu angenrheidiol gynnon ni.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s