Sut fath o beth fyddai rhyddid pe tasen ni’n ei gymryd heb ofyn?

Many visitors to the National Eisteddfod never...

Do, diolch, dw i wedi cael y busnes Steddfod ‘na allan o fy sustem, diolch i sylwadau clên rhai pobl dw i’n eu parchu yn fawr iawn – felly nôl at brif reswm bodolaeth y blog hwn, sef codi syniadau am gamau ymarferol ‘er mwyn ennill’ – dim bod ystyr ennill bob tro yn hollol glir.

Fel dywedais o’r blaen, does dim diffyg syniadau polisi ar gyfer y Cymry – dim ond diffyg grym gwleidyddol i’w gweithredu, neu ddiffyg ewyllys gwleidyddol ymysg y rhai sydd â’r grym.

Ond credaf fod diffyg sustemau.

Does dim pwrpas, hyd y gwelaf i, i mi fynd ati i restru sustemau gwahanol, heb ddechrau trwy trafod beth mae modd ennill gyda’r sustemau hynny – heb drafod beth sydd wirioneddol angen.  A dyna pam teitl y blog – am fod llawer o bethau mae modd i ni eu cymryd heb ganiatad yr un gwleidydd.

Hei lwc bydd rhai yn anghytuno (mwyaf chwyrn, y gorau!) gyda’r syniadau yma, a bydd eraill yn medru ehangu arnyn nhw neu ychwanegu atyn nhw.

***

English: Micrograph of tissue paper. Illuminat...
Individual fibres are ~10 μm wide. (Photo credit: Wikipedia)

Rhif 1 – Cysylltu pobl gyda’i gilydd – yn genedlaethol, yn lleol, yn Gymraeg, yn Saesneg, y tu mewn i Gymru a thu allan.

Mynd yn ôl ydw i at y 10% sydd am gael annibyniaeth yfory – y 300,000 yng Nghymru, a pwy a wŷr faint tu allan?  A hynny heb sôn am y niferoedd na fyddai’n pleidleisio dros annibyniaeth yfory, ond sydd ddim ar gau i’r syniad, ac sydd yn gefnogol i iaith a diwylliant Cymru.

Roedd Maes-E yn gychwyn da mewn un iaith, ond lladdwyd yr hen Faes gan Facebook – sydd ddim yn creu awyrgylch uniaith gwerthfawr fel Maes-E a dim ‘chwaith yn cysylltu llawer o bobl gyda phobl tydyn nhw ddim yn nabod.  Fel arfer, mae ‘ffrindiau’ ar FB unai gyda chysylltiad o ryw fath yn y byd real, neu gysylltiad wedi magu arlein – ond lleaifrif ydy’r rhai heb gysylltiad o gwbl.

Image representing Twitter as depicted in Crun...
Image via CrunchBase

Dw i’n cofio’r dyddiau cynnar pan oedd pobl yn mynd ati i greu grwpiau mawr yn troi o gwmpas syniadau penodol – aeth grwp gen i o’r enw syml ‘Mae Hen Wlad fy Nhadau’ yn fawr iawn ar un adeg, ond yn fuan iawn penderfynodd Facebook rwystro grwpiau felly rhag gysylltu yn uniongyrchol gyda’u holl aelodau – a’u gwneud felly yn ddi-werth ar gyfer creu sustemau cysylltu fel sydd angen arnom ni.

Fues i wrth fy modd y diwrnod o’r blaen i gael fy nilyn ar Twitter gan syniad newydd – Ymgyrch yr Wythnos, @ymgyrchu – sydd yn syniad bendigedig.  Mae posibiliadau mawr iddo – mi all weithio fel y cysylltiad cenedlaethol Cymraeg i garfan sylweddol iawn o’r bobl gefnogol – ond dw i’n gobeithio bydd yr un neu’r rhai sydd tu ôl iddo yn edrych yn ofalus iawn ar sut mae Avaaz.org wedi llwyddo.

Bydd angen ymgyrchoedd wythnosol sydd yn medru llwyddo yn y tymor byr – bydd angen adrodd i’r dilynwyr faint sydd wedi gweithredu mewn ffyrdd penodol, a beth oedd yr ymateb – gorau yn y byd os bydd modd dangos fideos yn profi hyn – ac ennill digon o ymgyrchoedd bychain i dyfu’n ddigon mawr i ddechrau ar y rhai mawr.

Y Byd logo

Roedd darpar bapur newydd ‘Y Byd’, wrth gwrs, yn enghraifft perffaith o sustem cysylltu ar lefel genedlaethol (eto, mewn un iaith) – ond yn ddigon cywilyddus, methodd y Blaid i’w gefnogi, mewn ffordd debyg i sut methodd gefnogi ymgyrch i gysylltu pobl mewn ffordd wahanol, sef dotCYMRU.  Yn y dyfodol agos, bydd .cymru a .wales yn cael eu rhedeg gan sefydliad o Loegr, mewn penderfyniad sydd yn dal i wneud i Lywodraeth Cymru’n Un edrych fel nad oeddant yn gweld y We yn rhywbeth o bwys.

Ond beth arall sydd?

Mae’r papurau bro wedi gwneud gwaith arbennig yn cysylltu pobl yn lleol (mewn un iaith) ers y 70au, ond (efallai gyda diffyg gefnogaeth y to ifanc?) yn ei chael hi’n anodd addasu i fyd digidol – lle mae’r gwefannau ‘cymunedol’ sydd yn cystadlu yn eu herbyn yn ddwyieithog fel rheol, ac yn rhy aml mewn dwylo pobl sydd ddim isio gwneud y math o wahaniaeth sydd angen.

Ond yn ddigidol, beth arall?

Dw i wedi cyfeirio sawl gwaith at bethau oedd yn gweithio ar gyfer ‘un iaith’.

Dydy hynny ddim yn meddwl i mi fod o blaid dwyieithrwydd – dim ond mewn cyd-destun Saesneg fel y Western Mail neu’r Daily Post.  Fel arall, mae cysylltu gyda phobl yn ei dewis iaith yn gweithio’n llawer iawn gwell.

Ond ar wahân i @ymgyrchu ar Twitter, lle mae’r ymdrechion i gysylltu pobl sydd o’n plaid yn ddigidol yn y Gymraeg yn lleol neu yn genedlaethol?  Lle mae’r ymdrechion i gysylltu pobl sydd o’n plaid yn ddigidol yn y Saesneg yn lleol neu yn genedlaethol?

Gan weld bod un pwnc ar y tro yn hen ddigon (os nad yn ormod!) i flog, dychwelaf eto at y cysyniad o ddarlledu yn gyffredinol – ond yn yr oes newydd, dim ond elfen fach o gysylltu ydy darlledu.

Os ydw i’n methu pethau, os oes pethau’n digwydd nad ydw i wedi clywed amdanyn nhw, hoffwn wybod ac helpu eu hyrwyddo mor fuan â bod modd.

Os nad oes ymdrechion pobl, a oes unrhyw un yn troi syniadau yn eu pennau i’r perwyl yma?  Efallai byddai gwyntyllu nhw yn helpu dangos faint o botensial sydd iddyn nhw.

Os nad oes syniadau am gysylltu’r bobl o’n plaid yn mudlosgi yn rhywle, rwyt ti wedi dy rybuddio – bydd rhaid i mi ddod yn ôl at y pwnc eto – hyd syrffed, efallai!

Bydd pwy bynnag llwyddith i gysylltu’r bobl o blaid Cymru, yn lleol, yn genedlaethol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gyda’r grym i newid ein gwlad.

Does dim angen – does dim pwynt! – aros i San Steffan neu griw Bae Caerdydd neu unrhyw lefel o lywodraeth leol wneud rhywbeth am hyn.  Dydy o ddim yn perthyn iddyn nhw.

Ond bydd yn digwydd – ac mi fydd pob drefn gysylltu mewn dwylo rhywun, o blaid, yn erbyn neu heb ddiddordeb yn iaith a diwylliant Cymru.

Rhywbeth i ni ydi o.

[O.N.  Help!  Iaith a diwylliant Cymru – mae’n rhaid bod ‘na ffordd well i ddweud ‘y pethau iawn’, ‘does?!]

Advertisements

15 o sylwadau am “Sut fath o beth fyddai rhyddid pe tasen ni’n ei gymryd heb ofyn?

  1. Ma rhwydweithiau cymdeithasol yn galluogi ffurfio grwpiau’n haws, ond nid gwneud hi’n haws iddyn nhw fod yn sticky os nad oes gen ti scale. Un man sydd angen sylw felly yn y marn i ydi rhwydweithiau oddiarlein newydd Cymraeg. Nes i drydar yn jocian fod na gap yn y farchnad i Clybiau Townies Ifanc, ond o dan yr eironi hunan-ymwybodol twp trydarol, dwi hanner o ddifri. Faint mae rhwydweithiau Cymraeg oddiarlein wedi datblygu ers y 60au? Faint o gymdeithasau a mudiadau cenedlaethol sydd wedi codi? Pam sna ddim clwb seiclwyr Cymraeg cenedlaethol er enghraifft? Ydi’r ffocws sydd wedi ei hoelio’n barhaol ar y “pethe” yn mogi elfennau eraill o ddiwylliant drwy gyfrwng y Gymraeg? Ella.

    Ma na wersi i’w dysgu gan Ferched y Wawr a’r Ffermwyr Ifanc. Trefniadaeth gyson a yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol wedi ei seilio ar gyfresi o ddigwyddiadau bach (wedi eu hunan-ariannu) sy’n gludo cymuned, gyda rhai mawr sydd yn gludo’r cymunedau. Dim byd newydd! Ond da ni ddim i weld yn creu rhwydweithiau fel hyn o’r newydd am ryw reswm. Ma’r Papurau Bro yn esiampl dda. Be di’r glud cymunedol sydd yn gallu efelychu nid beth mae’r papurau bro yn ei wneud o ran cynnyrch, ond ei sgil effeithiau cymdeithasol a diwylliannol. Sut mae gamers Cymraeg yn cynnal trafodaeth am gemau? Ma’n hanfodol bod na ofod i gamers Cymraeg!! Y ffurf adloniant bwysicaf yn ein cyfnod a’r unig beth sydd yna ydi cofnod blog newydd ar Golwg 360 (a diolch i Daf Prys amdano). Ma’n wallgo, ond ti angen pobol sydd yn frwd i afael ynddi – falle bod isio mwy o anogaeth i sefydlu strwythurau Cymraeg newydd yn gyffredinol. Efallai bod Hacio’r Iaith yn un gymuned newydd oddiarlein a ddatblygodd arlein ar egin ffurf (a ddylai fod wedi ffiltro lawr yn lleol yn well? A ddylai fod a mwy o strwythr?), efallai bod Yr Awr Gymraeg yn un arall? Dwi’n siwr bod rhagor, ond yn sicr does dim digon. Ydi’n cymdeithas sifig ni mewn rhyw fath o stagnation? Neu ai dim ond rhai elfennau o’n cymdeithas sifig ni sydd? A bod cyfranogiad diwylliannol *yn* digwydd ac yn llenwi bywydau pobol yn achos mudiadau fel MyW a CFfI? Ac os ma nhw sut ma plygio’r gaps yng ngweddill cymdeithas sifig Gymraeg?

    1. O’n i’n gobeithio’n fawr iawn y byddet ti yn benodol yn ymateb i hyn – diolch o galon am wneud! Mae’n cadarnhau i mi nad oes unrhyw syniadau digidol eraill yn digwydd nad ydw i wedi sylwi arnyn nhw…:)

      A diolch hefyd am ymateb mor ddifyr, cymhleth, anodd, gwerthchweil.

      Dw i’n meddwl bod dy bwynt am rwydweithiau ar gyfer y Cymry ifanc trefol yn hynod bwysig (ac yn rhywbeth dwi’n gwybod dim amdani) – a dw i hefyd yn cytuno am Ferched y Wawr a’r Ffermwyr Ifanc. Ac mae Hacio’r Iaith yn sicr y peth digidol-berthnasol gorau yn y Gymru sydd ohoni. Dw i ddim yn siwr erbyn hyn os dylen ni fod yn gwahanu rhwng grwpiau ‘arlein’ ac ‘oddiarlein’ – am wn i, byddai pob grwp oddiarlein yn medru elwa o gryfhau’r ffyrdd maen nhw’n defnyddio’r We.

      Sut fath o drefn drafod arlein sydd gan Hacio’r Iaith, gyda llaw?

      Mae’n ymddangos i mi bod tair ffordd i fynd ati – cynnig sustemau cyfathrebu mae modd eu rhannu ar gyfer grwpiau sy’n bodoli’n barod, codi mwy o rwydweithiau (gwaith anodd iawn) a chodi sustemau cysylltu agored y mae modd i grwpiau ac unigolion gael gwerth ohonyn nhw. Ond mae’n rhaid iddyn nhw fod yn sustemau nad ydi pobl yn teimlo bod rhaid dewis rhyngddyn nhw a Facebook – a dydy grwpiau fel dan ni angen ddim i’w gweld yn gweithio ar Facebook, am amryw o resymau.

      Dw i wastad yn meddwl am Kontseilua yng Ngwlad y Basg yn y cyd-destun yma, yn medru cyfathrebu rhwng yr holl wahanol grwpiau cenedlaetholgar – mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn gwneud gwaith da i’r cyfeiriad yna, ac efallai bydd modd iddyn nhw ddatblygu trefn gysylltu genedlaethol ar gyfer pobl o blaid y Gymraeg.

      Yn reddfol, wrth gwrs, dwi’n teimlo bod angen bob un o’r uchod!

      Ond faint o bobl efo’r sgiliau technegol sydd ar gael, dw i ddim yn gwybod – ac mae angen rhywfaint o sgiliau/hyder ar bob lefel i osod sustemau cysylltu da.

      Dwi’n credu, mewn ffordd od ond positif, bod y gymdeithas sifil yna ac yn gref, ond yn llawn pobl sydd wedi arfer cydweithio o fewn eu grwpiau eu hunain a dim yn ehangach – a dyna’r cyfle mae’r byd digidol yn cynnig i ni. Mewn undod (neu undod-au?!) mae nerth, math o beth.

      Ac, wrth gwrs, dan ni dal ddim yn trafod byd Saesneg Cymru – efallai mai dyna lle mae’r diffygion mwyaf, ond gobaith real hefyd – mae cymaint o gefnogaeth meddal, ond dim byd sydd yn naturiol i bobl ifanc fod yn rhan ohoni fel mae’n naturiol i rai pobl ifanc Cymraeg fod yn rhan o Gymdeithas yr Iaith neu’r Urdd. O gael y cyslltiadau i fodoli, dw i ddim yn credu y byddai’n anodd o gwbl i gynyddu cefnogaeth y di-Gymraeg i’r pwynt lle mae’r gwleidyddion yn gweld bod rhaid (neu fod modd!) iddyn nhw gymryd camau cryfach – a hynny heb sôn am yr effeithiau positif eraill.

      1. O’n i wedi gobeithio gallu sefydlu Y Ffrynt Digidol eleni. Ei bwrpas oedd cael pobl at ei gilydd i ddatblygu technoleg all gael ei ddefnyddio i ymgyrchu dros yr iaith, hybu’r iaith a mentora pobl yn y gwahanol ddisgybliaethau fyddai eu hangen.

        Byddai’r rhan fwyaf o brojectau, rwy’n dychmygu, angen datblygwyr gweinyddion, datblygwyr gwe, dylunwyr, gweinyddwr gweinyddion, gweinyddwyr i’r wefan/system a’r tîm creu, casglu a mewnbynnu cynnwys. Y syniad oedd i’r projectau gael eu datblygu yn debyg i brojectau cod agored (a rwy’n siwr byddai’r rhan fwyaf o’r cod yn agored).

        Es i i’r Haciaith gyda’r pwrpas o hybu’r syniad hwn ac yn y gobaith o ddod o hyd i ddigon o bobl i ddechrau’r project cyntaf ac i sefydlu’r sefydliad, ond oherwydd tywydd echrydus ychydig oedd yn bresennol. Dechreuais ar y gwaith fy hun ar ôl methu dod o hyd i ddigon o gefnogaeth ond yn anffodus o’n i’n rhy brysur yn trio rhedeg cwmni newydd. Bydda i nôl i’r Haciaith nesaf yn benderfynol o rhoi go arall arni.

      2. Ac rwan dw i wirioneddol wrth fy modd efo’r ffaith bo fi ‘di dechrau blog Cymraeg! Cyn i mi gyrraedd unrhyw fwydro am atebion, mae rhywun eisoes wrth y gwaith – gwych…:-)

        Mae hyn yn syniad penigamp, Maredudd, ac os fedri di goelio fo, mae gen i ddarn o bapur o ‘mlaen i yn fan hyn (lle o’n i wedi bod yn gwneud nodiadau ar gyfer pethau hoffwn i drafod ar y blog) efo’r nodyn annelwig ‘Rhyddhau pobl – cymunedau o raglennwyr?’…!

        Byddai’n braf iawn clywed sut mae pethau’n mynd efo’r cwmni newydd (byddai’n braf iawn dal i fyny yn gyffredinol!) ac os oes unrhyw ffordd i ni helpu trwy ei hyrwyddo i ddysgwyr.

        Mae hefyd yn taro fi y byddai modd helpu cryfhau’r Ffrynt Digidol pe bae modd cael cwmniau cefnogol i ymrwymo rhywfaint o amser eu staff – byddai SSi Cyf yn sicr yn fodlon ystyried gwneud hyn.

        Os fedra i helpu efo hyn mewn unrhyw ffordd, rho wybod. Dw i’n credu fod o’n un o’r camau hanfodol yn y gwaith sydd o’n blaen…:-)

      3. Ma’r Ffrynt Ddigidol yn syniad gwych dwi’n meddwl a’r fantais efo côd ydi bod dim rhaid i ti allu siarad Cymraeg er mwyn gallu cyfrannu wrth gwrs.

        Un peth dwi wedi bod yn pendroni amdano yn ddiweddar ydi creu rhyw fath o system ar gyfer dewis pa broblemau neu heriau sydd angen ac yn bosib eu taclo drwy brosiectau arlein. Galla rhain fod yn heriau i siaradwyr Cymraeg, dysgwyr, a’r di Gymraeg a di hyder sydd isio cymryd rhan mewn sdwff Cymraeg. Y syniad ges i oedd ffurfio math o matrix (wel…spreadsheet 😉 ) agored lle gallai pobol osod y ‘broblem’ wedyn bod colofnau pellach ar gyfer nodi os ydi o’n rhywbeth sydd yn bsoib ei ddatrys drwy dechnoleg, efallai’n bosib, rhannol bosib ayyb; a pharhau efallai i nodi ydi o’n rhywbeth sydd angen ei ddatrys gan gymdeithas, llwyodraeth ayyb hefyd er mwyn gwneud yn eglur.

        Byddai’n ffordd efallai o chwynnu rhai syniadau sydd â ffactorau niferus sydd angen delio efo nhw a chanolbwyntio ar y posib. Byddai hefyd yn ffordd efallai o adeiladu consensws o ryw fath.

        Er enghraifft: mae pobol wedi sôn wrthai y byddai ap ar gyfer ffeindio siaradwyr Cymraeg efo GPS yn dda (ac mae un Gwyddeleg i gael, sef An Seo) ond y teimlad sgen i ydi nad ydi hwn yn meddwl am be ma siaradwyr Cymraeg isio.

        Mwy defnyddiol i siaradwyr a dysgwyr fyddai ateb y broblem o sut wyt ti’n dweud bod rhywun yn siarad Cymraeg o flaen llaw fel bod ti’n osgoi’r ddawns yna o “Smai” “Hello” “Chi’n siarad, ym, Cymraeg?” “Odw odw!” “O reit, gret!”

        Mae’n swnio fel darllen meddwl ond be am bethau fel chips RFID mewn drysau siopau sydd gyda siaradwyr Cymraeg sydd yn pwsho neges i;ch ffôn i ddweud “siaradwch Gymraeg yma!” – braidd yn anymarferol, a dio dal ddim yn datrys y broblem ond ma’n enghraifft o sut ellid meddwl am brosiectau posib i’w gwireddu yn lle, ac sydd efo amcanio pendant cryf, ac sydd yn gallu cael eu gwireddu.

      4. Ww, Nwdls – dw i’n codi fy het, syr. Clamp o syniad.

        Y Meitrics. Neu Y Feitrics, mae’n siwr…;-)

        Ehangu fo rhyw fymryn, a ti’n sôn am hedyn drefn lwyodraeth ffynhonell agored, ‘dwyt?!

      5. Newydd weld term sy’n disgrifio’r am y syniad matrics: democratic innovation.

        Ma’r erthygl yn awgrymu yn yr ail don o hacathons bod pobol yn lle hacio er mwyn arbrofi, ond deall anghenion a phroblemau’n well er mwyn hacio gyda phwrpas ac amcan glir. Dyna da ni’n siarad amdano efo y Ffrynt Ddigidol a’r syniad matrics ynde?

      6. Ia, dwi’n meddwl bod ti’n hollol iawn – a diolch am rannu erthygl hynod ddiddorol (efo typeface gwych dw i isio dwyn!).

        Dw i’n gweld lle mae’r sgyrsiau’n digwydd yn holl-bwysig i hyn – mae’n hawdd i mi gysylltu efo chdi neu Carl neu Maredudd neu ychydig o bobl eraill i drafod syniadau, ond mae angen agora arnom ni – dyna oedd amcan y Blogiadur yn wreiddiol, wrth gwrs – ac efallai bod modd i Haciaith a’r Blogiadur lwyddo i’w greu. Rhywle byddai modd wedyn ei hyrwyddo tu hwnt i’r rhaglennwyr/entrepreneuriaid, a chreu rhesymau i bobl Gymraeg o bob cwr fynegu ymateb i syniadau arni… ac wedyn byddai amcanion hollol glir i’r Ffrynt Digidol…

  2. Byddai cael cwmniau cefnogol i ymrwymo rhywfaint o’u staff yn fantais mawr. Mae gweithio ar god agored yn gallu bod yn fanteisiol i gwmniau hefyd gan ei fod yn ffordd dda o roi profiad i’r staff a dod o hyd i staff newydd. Hefyd, os ydy’r project yn creu technoleg sydd o ddefnydd i’r cwmni yna gallant roi egni i fewn i greu’r cynnyrch a wedyn ei ddefnyddio yn fasnachol.

    Mae cymuned fawr o aelodau gan SSiW sydd wrth ei ddiffiniad yn gefnogol i’r Gymraeg ac yn lle gwych i ddechrau.

    Byddaf mewn cysylltiad er mwyn trafod y syniad gyda ti i weld beth ti’n feddwl ohono.

  3. @Nwdls – bydd Ras yr Iaith yn rhwydwaith newydd, o leiaf un darn o newyddion da 🙂 Aran – be ddigwiddodd i dimegoch neu welshpenny.com – syndiad da arall ond rywsut heb gydio?

    1. Mae Ras yr Iaith yn enghraifft difyr iawn o sut fyddai datblygwyr yn medru helpu cryfhau’r elfen gyfathrebu efo rhwydweithiau newydd.

      DimeGoch – dal i fynd, mewn ffordd – aeth y niferoedd fyth yn uchel, diffyg amser i hyrwyddo mae’n siwr, ond dros amser mae wedi creu cyfalaf eithaf da i wneud rhywbeth – dwi’n gobeithio cael yr amser i ail-ymweld â fo blwyddyn nesaf…:-) Tasai’n cyrraedd y critical mass sydd isio, byddai’n gweithio ar gyfer un haen o’r math o gysylltu sydd angen…

    1. Ia, enghraifft perffaith o’r math o sefyllfa lle byddai rhwydwaith eang yn medru cael effaith hynod bwysig yn y tymor byr. Unwaith bydd modd i mi adnabod rhywfaint o amser cyson (boed yn fisol neu wythnosol) blwyddyn nesaf, gawn ni weld os bydd modd mynd yn bellach efo DimeGoch…:-)

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s