O, na, dim yr Eisteddfod eto! Gwir gwerth yr Ŵyl Genedlaethol

Robin McBryde ac Angharad Lliar
Robin McBryde ac Angharad Lliar

Yli, dim bai fi ydi hyn – wedi cael fy neffro gan y larwm 5 o’r gloch sef hogyn bach yn crio am ei nwn, a does gen i’m gobaith mul cysgu eto – yn enwedig efo fy mhen yn dal i droi efo sylwadau am y Steddfod.  Dw i’n gwybod yn iawn bod 5 o’r gloch y bore yn adeg rhyfedd ar y naw i ysgrifennu unrhyw beth ti’n gobeithio bydd rhywun heb blant yn ei ddarllen – ond dw i newydd ddallt bod modd cadw hyn a’i rhannu wedyn ar ryw adeg pan bydd pobl gall ‘di cael amser am banad, o leia.

Ddoe, roeddwn i’n teimlo’n rhwystredig oherwydd natur cyfyngedig trafodaeth y cyfryngau yng Nghymru, ac isio cyfle i orffen y brawddegau oedd wedi bod yn fy mhen wrth glywed bod John Davies o’r Sioe Frenhinol yn meddwl na ddylai’r Eisteddfod gael mwy o bres.

Heddiw, neu heno, neu beth bynnag mae rhywun i fod i alw yr adeg anwar hon o’r diwrnod, dw i’n sylweddoli bod rhywbeth arall yn chwyrlïo y tu mewn – dw i wedi treulio blwyddyn gron o dan reolau Chatham House (peth anodd iawn i rywun sy’n licio mwydro cymaint ag ydw i!), wedi clywed yr holl feirniadaeth o fodolaeth ‘y Tasglu’, ac wedi bod isio amddiffyn y gwaith gwych dw i ‘di gweld yr aelodau eraill yn ei wneud.

Ac rwan, gyda’r rheolau Chatham House wedi codi i ryw raddfa cyn belled â’n bod yn nodi’n glir mai nid siarad fel llefarydd y grwp ydan ni, am y tro cyntaf dan ni’n cael agor ceg – ac yn lle amddiffyn y Tasglu yn erbyn ofnau digon dealladwy caredigion yr Ŵyl, dyma ni’n wynebu Cymry Cymraeg sydd yn erbyn ein cais i’r Llywodraeth roi mwy o arian i’r Eisteddfod.

Mae’r peth wedi fy nghythruddo fi – a dyna pam dw i’n methu cau fy llygad eto (er bod Beuno bach, wrth gwrs, yn cysgu’n braf erbyn hyn).

Paid â phoeni – dim ond dau beth sydd gen i i’w dweud (er bydda i’n gwneud hynny’n ddigon hirwyntog, mae’n siwr – pan wyt ti’n dysgu iaith newydd mor ddifyr a’r Gymraeg, mae’n anodd iawn rhoi taw ar dy dafod ychwanegol!).

O, ac ymddiheuriadau am dy alw di yn chdi trwyddi draw – mi ddysges i hynna cyn ‘chi’, felly mae’n haws i mi, ond dw i hefyd yn teimlo bod unrhyw un sydd yn cyrraedd yn fan hyn ac yn darllen tu hwnt i’r pennawd yn ddarpar ffrind (neu’n elyn digon diddorol i mi fod yn glen efo nhw!).

Ta waeth – y Steddfod.  Dau reswm mae’n nonsens awgrymu nad ydi hi’n haeddu mwy o gefnogaeth.

1)  Mae dweud na ddylai’r Eisteddfod gael mwy o arian cyhoeddus (does dim cynnydd wedi bod yn yr arian mae’n cael, dim hyd yn oed yn unol â chyfradd llog, ers blynyddoedd, felly mae’n werth llawer iawn llai erbyn hyn) am fod ‘na ‘wasgfa ariannol’ fel deud bod y bancwyr wedi dwyn y pres i gyd ac felly waeth i ni stopio dysgu ein plant i ddawnsio, i ganu, i farddoni, i beintio, i ddathlu, am nad ydi’r pethau hynny yn gwneud arian iddyn nhw.

Efallai bod rhywun fel John Davies (sydd am wn i yn fonheddwr digon glen, ond sydd wedi cynnig ei enw fel llais rhesymeg annerbyniol yn hyn oll) yn credu bod hi’n iawn dysgu plentyn i ganu os oes cyfle iddi ennill yr X-Factor a gwneud pres, a dim fel arall – well i mi roi stop ar fy merch i, felly, am na fydd hynny’n digwydd iddi hi, cred ti fi.

Ond wna i ddim – achos mae hi’n mwynhau canu, ac mae hi’n mwynhau dawnsio, ac mae hi’n mwynhau gwneud lluniau o’r pethau rhyfeddaf welest ti erioed – ac nid yn unig ydi ei mwynhad hi yn llenwi fy nghalon i, mae hefyd yn sail i gymdeithas lle mae pobl yn gwerthfawrogi y pethau sydd yng nghalonnau y bobl eraill maen nhw’n byw yn eu mysg.

Hynny yw, cymdeithas lle dan ni’n deall ac yn dathlu ac yn rhannu ein dynoliaeth – yn gwneud ffrindiau am eu bod nhw’n ddiddorol, dim achos bod cyfle y gawn ni arian allan ohonyn nhw wedyn, fel dywedodd Rhona NicDhùghaill mewn erthygl ar ieithoedd cynhenid Prydain ddoe.

Rwan, dyma’r peth:

Dydy cymdeithas o’r natur yna ddim yn anrheg fach dan ni’n haeddu pan mae’r bancwyr yn hapus.

Mae cymdeithas o’r natur yna yn hanfodol i ni gyd-fyw gyda’n gilydd – i ni gefnogi ein gilydd, rhannu pan fo angen, siarad yn gwrtais hyd yn oed pan mae’r hogyn wedi’n deffro ni am 5 o’r gloch y bore.  Cymdeithas o’r natur yna sydd yn sefyll rhyngddom ni ac erchylldra llefydd yn y byd lle mae’r cymdeithas hynny wedi torri i lawr, ac lle mae pobl yn lladd ei gilydd, yn lladd plant ei gilydd, er mwyn cael grym neu fwyd neu deimlo’n ddiogel am noson arall.

Mae methu gweld gwerth ein gwyliau wrth dynnu ni at ein gilydd fel pobl, yn enwedig yn ystod adegau anodd, yn ffolineb llwyr ac yn feddylfryd peryglus.

2)  Wyt ti’n medru gweld mod i ‘di treulio gormod o amser yn darllen cofnodion yn y flwyddyn ddiwethaf?  Mae rhifau wedi dechrau fy swyno i, ac mae’n bosib bydd angen cymorth arna i ddod dros hyn.

3)  Mae’r Eisteddfod yn cynhyrchu arian.

Gad i mi ddweud hynna eto, yn gliriach – mae’r Eisteddfod yn cynhyrchu llawer iawn o arian.

Mae’n dod â phres anferth i ardal yr Eisteddfod bob blwyddyn – mwy, mae’n debyg, oherwydd ffactorau gwahanol (gan gynnwys faint o weithiau mae punt yn cael ei wario mewn un ardal) pan mae’n ymweld â rhywle dinesig – ond mae’r arian yn ffactor mwy sylweddol byth pan mae’n ymweld ag ardal wledig.

Dydy’r cynghorau sir ddim yn cyfrannu am eu bod yn siriol ac yn garedig – maen nhw’n gwybod yn iawn mai buddsoddiad ydi o.  Mae’r Llywodraeth hefyd yn gwybod bod yr Eisteddfod yn helpu cyflawni nifer sylweddol o’i thargedau, gan gynnwys rhai ariannol.  Mae noddwyr yr Ŵyl yn deall gwerth hysbysebu – ac mae unrhyw gwmni sydd yn hysbysebu ar golled yn diflannu yn weddol buan.  Mae S4C yn cael gwerth anhygoel o’r Eisteddfod – oriau o ddarlledu poblogaidd llawer iawn rhatach na chynhyrchu cyfres fel y Gwyll bob mis!  Mae cantorion ac awduron ac artistiaid yn gwneud arian ac yn cael cyhoeddusrwydd o’r Eisteddfod (er bod angen telerau gwell ar gyfer y rhai sydd angen stondin).

Hynny yw, mae’r Eisteddfod yn cynhyrchu arian i bawb, bron, ond (wrth gymharu) yr Eisteddfod ei hun.

Ac hyd yn oed yn hynny o beth, ar gyllid sydd mor dynn mae’r lefelau staff yn sicr iawn yn is na’r angen, mae’r Eisteddfod yn llwyddo yn aml i wneud elw!

Dim methiant yn crafu am arian o’r Llywodraeth am i’r crachach gael wythnos braf o wyliau ydy’r Steddfod, ond un o lwyddiannau mwyaf ein cenedl, hyd yn oed yn ystod cyfnod ariannol mor anodd.

Mae’r peth bron yn wyrthiol.

Blwyddyn o graffu arno, a dw i dal ddim yn gwybod sut mae’n bosib.

Wel, na, mae hynna’n gelwydd noeth – mi ydw i’n gwybod yn iawn.  Mae’n bosib oherwydd y byddin o wirfoddolwyr, o Gymry sydd yn deall gwerth cymdeithas, a gwerth unigryw cymdeithas Cymraeg (a staff sydd yn gweithio’n wirion o galed).  Yr Eisteddfod ydi enghraifft unigol mwyaf yng Nghymru o’r syniad y dylen ni godi oddi ar y soffa a gwneud rhywbeth os ydan ni isio pethau wneith y bancwyr ddim prynu i ni eleni.  Am hynny ynddo’i hun mae’n haeddu cefnogaeth gwell.

Daeth yn amlwg yn ystod y flwyddyn bod lle am filoedd o syniadau bychain newydd – syniadau sydd yn anodd ar y naw pan nad oes digon o staff cyflogedig i’w cyflawni – ond ar y lefel uchaf, dim ond mireinio (a’r cefnogaeth i’w gyflawni) sydd angen.

Efallai dyna pam mae rhai pobl wedi bod isio cwyno am i’r adroddiad fod yn ‘feddal’ – pwy sydd isio mireinio pan fedrwch chi alw i’r holl beth gael ei luchio (neu i’r holl beth gael ei ariannu yn llwyr gan y Llywodraeth, syniad doedd dim rhaid i ni anwybyddu).

Ond dyna ydy’r adroddiad – cais diffuant i gynnig syniadau er mwyn helpu mireinio, gan nodi o le dylai’r arian ddod, â chymaint yn fwy dylai partneriaid yr Ŵyl wneud i’w helpu.

***

A dyma’r tri pheth dw i, yn bersonol, yn gweld fel y rhai mwyaf gwerthchweil.

Fel dw i wedi dweud yn barod, dwi’n cytuno’n llwyr gyda’r syniad o Gyfarwyddwr Artistig.  Mi welson ni lu o enghreifftiau o wyliau eraill yn ystod y flwyddyn, ac mi oeddan nhw’n tynnu dŵr o’r danned ar y golwg cyntaf – mi o’n i isio mynd i bron bob un, ac mae’n siwr yr af i pan bydd y plant yn cysgu trwy’r nos.  Dim felly, mae arna i ofn, dw i’n teimlo am yr Eisteddfod – rhesi o stondinau, pafiliwn pinc, carreg plastig yn rhywle, a dyna ni.  Mae’n rhaid cystadlu, mae eraill wrthi’n cystadlu’n gryf yn barod, ac mae angen cystadlu’n well pan fo arian yn brin.

Syniad sydd wedi cael dim trafodaeth hyd yma oedd syniad Eirlys Pritchard Jones bod angen Canolfan Ddehongli ar yr Eisteddfod – ffordd i leoli adnoddau yn y Fro Gymraeg er mwyn marchnata’r Eisteddfod trwy’r flwyddyn, gan ddefnyddio’r gronfa anhygoel o adnoddau digidol sydd ar gael – faint o bobl na fyddai isio gweld a phrynu perfformiadau eu plant, neu rai eu hunain, eto, mewn safon llawer gwell na hynny y gipwyd ar yr hen fideo recorder?  Faint yn fwy o ehangder anghygoel digwyddiadau’r Eisteddfod byddai modd cyflwyno i bobl nad oedd yn siwr iddi fod yn berthnasol iddyn nhw?

Mae’n bosib mai dim ond yn rhywle fel Sain Ffagan byddai Canolfan gorfforol yn gwneud elw – ond o’i wneud yn adnodd digidol gyda holl ogoniant technoleg newydd, byddai modd cael stondinau yn hyrwyddo’r Eisteddfod trwy’r flwyddyn bron ym mhob man yng Nghymru – ym mhob llyfrgell, efallai, fel awgrymwyd ein cadeirydd?

Ac yn olaf, marchnata.

‘O, ia, mae pawb angen marchnata,’ meddai John Davies ar y Post Cyntaf – ond ydi o’n gwybod *sut*?  Dydy’r adroddiad ddim yn dweud ‘O, gyda llaw, beth am ychydig o farchnata?’

Mae gan yr Eisteddfod gronfa amhrisiadwy o 30,000 o gyfeiriadau ebost cefnogwyr.

Mae’n datblygu gwefan bydd modd ei phersonoli – bydd modd i ti gael hyd o bopeth ti’n mwynhau, o bethau doeddet ti ddim yn gwybod dim amdanyn nhw (oes, mae llawer, faint bynnag o Eisteddfotwr wyt ti!) – a bydd modd iddi gofio bod ti’n mwynhau pethau felly.

Yn y dyfodol, bydd modd i’r Eisteddfod ebostio pobl sydd (fel dim ond un enghraifft) fel arfer yn treulio tridiau yn yr Ŵyl, gan nodi bod pedwar o’u hoff bethau yn digwydd ar bedwar diwrnod gwahanol, a bod cynnig dros dro am bris gwell ar gyfer y pedwar diwrnod hynny.  Unwaith bydd y data ganddyn nhw, bydd cost marchnata felly yn agos at ddim byd.

Mae annog pobl sy’n dod yn gyson am ddiwrnod neu ddau i dreulio tridiau neu bedwar diwrnod yn llawer iawn haws ac yn llawer iawn rhatach na thargedu pobl heb ddiddordeb yn yr Eisteddfod neu yn y Gymraeg.

Mae annog pobl sydd yn dod i’r Eisteddfod adael i’w ffrindiau sydd ddim wybod am bethau newydd gall fod o ddiddordeb iddyn nhw (neu i hyrwyddo pethau i grwpiau penodol) yn llawer iawn haws ac yn llawer iawn rhatach na thargedu pobl heb ddiddordebb yn yr Eisteddfod neu yn y Gymraeg.

Ac mae hynna cyn meddwl am y cronfeydd ebyst anferth sydd gan bartneriaid yr Eisteddfod – gellid eu defnyddio i hyrwyddo tocynnau arbennig, patrymau tanysgrifio, perfformiadau arbennig, a hynny i gyd heb gost i’r Eisteddfod.  Cyn meddwl, hefyd, am syniad ardderchog Dafydd Glyn Jones bod angen tâl aelodaeth ar gyfer Llys yr Eisteddfod, byddai mewn un cam yn dangos gwir cryfder yr Eisteddfod.

***

Dim methiant sydd angen cefnogaeth y Llywodraeth mo’r Eisteddfod.

Cyfle ydi o – cyfle i’r Llywodraeth fuddsoddi mymryn o arian cyfalaf, a mymryn o arian refeniw, er mwyn helpu troi un o wyliau gorau Prydain yn un o wyliau gorau’r byd – gŵyl fydd, o’i chefnogi rwan, yn debyg iawn o sefyll yn gadarn iawn ar ei thraed ei hun yn y dyfodol agos.

O’i wneud hi’n iawn, efallai mai’r Eisteddfod bydd yn rhoi help llaw i’r Llywodraeth ym mhen deng mlynedd! – fel mae hi sicr yn rhoi help llaw yn sylweddol eisoes i’r diwydiant amaeth yng Nghymru, a llawer iawn eraill o’r busnesau sydd eu hangen er mwyn cadw cefn gwlad, a’r Gymraeg, yn fyw.

***

Wel, mae gormod o amser wedi mynd heibio, ac mae’r plantos ill dau yn effro fel y gog ac yn neidio dros y gwely ‘ma i bob man.  Mae mymryn o olau tu allan – hynny yw, ti’n cael dianc, achos mae’n debyg mai amser brecwast ydi hi rwan.

Hei lwc ga i gysgu dros y Sul!

Advertisements

4 o sylwadau am “O, na, dim yr Eisteddfod eto! Gwir gwerth yr Ŵyl Genedlaethol

  1. Un syniad bach am farchnata’r Steddfod a fyddai’n hawdd i’w wneud, ac yn chwerthweil yn fy mhrofiad i: Gofynnwch bobl sy’n siarad Cymraeg ond heb fynd i’r Steddfod o’r blaen ddefnyddio wefan yr ŵyl i gyflawni sawl tasgiau. Er engraifft: “Chi’n moyn ymweld â’r Eisteddfod am ddiwrnod ac efallai cael cip i mewn i’r Pafiliwn; pa fath o docyn fydd ei eisiau arnoch? Oes gwahaniaeth tasech chi’n moyn cael cip o’r Cadeirio?” neu “Chi’n moyn bwcio lle am babell ac yn gwybod pa weithgareddau eraill yn cael eu cynnwys yn y pris.” Dyw gwybodaeth fel ‘na ddim yn amlwg ar y wefan fel y mae (ac fel y wedi bod), yn fy marn i.

    1. Diolch am dy sylw, Diane…:-)

      Dwi’n cytuno y byddai hyn yn arbrawf gwerthchweil – mae’n bosib mai dim ond y lefelau isel o staff a’r lefelau uchel o waith sydd wedi rhwystro hyn yn y gorffennol, ond gobeithio gyda’r wefan newydd yn mynd yn fyw bydd cyfleon newydd i wneud y math yma o arbrofi.

  2. Mae’r ‘steddfod yn werth y byd i dysgwyr hefyd – rhwyle ble mae’r iaith cyntaf NATUIRIOL i ddefnyddio yw’r Gymraeg. Rhywle ble oes ofn arnat i i trio dy Gymraeg di… o leia mae ofn yw JEST am y Gymraeg nid am “Ydyn’n nhw’n siarad Cymraeg? Ydyn nwh’n hapus i siarad? Ydyn nhw’n mynd i bod yn amyneddgar i ddysgwyr?” Ar y stondin yn y ‘steddfod ti’n gallu ‘take for granted’ yr atebion i rhai cwestiynnau sy’n codi ofn ar ddysgwyr.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s