Dyfodol yr Eisteddfod a’r hwyl a sbri o anghytuno gyda Seimon Brooks

English: Welsh Asseembly Government Pavillion ...

2 beth cyn cychwyn – madda i mi os bydd fy Nghymraeg yn fwy lletchwith nag arfer, ond dw i newydd orfod ateb sylw ar fy mlog ‘Saesneg’ yn y Sbaeneg, ac mae dal yn fore iawn i mi, ac mae’r hen frêns ‘ma’n teimlo fel bod rhywun ‘di gadael nhw mewn peiriant sychu dillad yn am yn rhy hir.

Yn hirach nag arfer, beth bynnag.

A’r ail beth – fel dw i ‘di deud troeon yn y 12 awr diwethaf – does gen i ddim hawl siarad fel llefarydd tasglu’r Malfinas, sori, tasglu’r Eisteddfod – dim ond Roy Noble gall wneud hynna, fel cytunwyd yn unfrydol gan y grwp – felly, gyda chaniatad Roy, dw i ‘di siarad neithiwr, heddiw ‘ma ac rwan hyn fel unigolyn oedd wedi digwydd llithro i mewn trwy ddamwain i rai o’r cyfarfodydd.

Wel, ‘de.

Mae gynnon ni broblemau efo’r cyfryngau yng Nghymru, ‘does?  Dim (yn fy mhrofiad i) y bobl sy’n gweithio ynddyn nhw – maen nhw wastad yn glen ac yn gwrtais ac yn bleser i weithio efo nhw, hyd yn oed Dylan Post Cyntaf pan dydi o ddim ‘di cael bore arbennig o flin!  Ond mae eu patrwm – sydd yn efelychu patrwm cyfryngau Lloegr, ac sydd yn mynnu crynhoi pob trafodaeth i ambell cyfle i daflu mwd, ac wedyn ymlaen â ni at y mud-wrestle nesaf – yn gwneud trafodaeth ystyrlon bron yn amhosib, ac mae hynny’n niweidiol i’n cyflwr ni fel cenedl.

Ai’r cyfryngau sy’n creu cymdeithas gyda diffyg gallu canolbwyntio neu’r ffordd arall rownd, dwn i’m.

Ond mae’n gadael unrhyw un sydd yn cael cais i drafod pwnc cymhleth yn teimlo’n anorffenedig braidd erbyn diwedd y ddau funud (neu dri, fel ddudodd y technegydd i mi gael ar y Newyddion neithiwr, mewn rhyw fath o ‘high five‘ am gael mwy o amser na’r disgwyl!).

Ond mae gen i flog!  

Mae gen i hawl i fwydro!

Fel sydd gen ti hawl i stopio darllen, sydd yn broblem bydd rhaid i ni ddatrys rhywsut – teclyn sy’n cloi drws dy stafell hyd nes i ti orffen darllen, efallai?  Mae hynna’n gweithio efo’r wraig.

***

Dw i’n teimlo’n gyfforddus iawn yn anghytuno gyda John Davies o’r Sioe Frenhinol fel o’n i bore ‘ma – wel, ar wahân i’r ffaith bod y plant wedi bod yn chwarae ‘dal di fi’ yn fy ngwely ers tua 5 o’r gloch, bod fi’n marw angen gwydrad o ddŵr a pheint o goffi, heb sôn am y diazepam a’r Tramadol arferol – wnaeth arwain un sylwebydd caredig ar Twitter i ddisgrifio fy llais fel ‘cath yn cael pŵ ar ddiwrnod oer’ (oedd efallai bach yn rhy hael!).  Is-deitl da i’r blog, efallai… [Ond doedd hynna’n ddim byd – ges i morphine cyn y cyfweliad ar y newyddion neithiwr, yn y gobaith y byddai’n gwneud i mi feddwl yn fwy fel Iolo Morgannwg…;-)].

Ond methodd Mr Davies dair gwaith i ateb cwestiwn syml ar gynnwys yr adroddiad yn ymwneud â syniadau marchnata – tair gwaith – doedd o ddim wedi’i ddarllen o i gyd, naddo?  Dim ond y penawdau, tybiwn i – ac mae disgwyl deall trafodaeth blwyddyn gron trwy gael cip ar y penawdau fel disgwyl deall cyflwr Cymru trwy gael sbec ar glawr Golwg.

Mae beirniadaeth, hyd yn oed beirniadaeth hallt, yn hynod bwysig.  Mae’n gyfle i drafod, cyfle i dyfu, cyfle i gydnabod camgymeriadau – dw i wrth fy modd efo beirniadaeth, achos mae’n golygu bo chi ‘di trio gwneud rhywbeth, a bod gynnoch chi gyfle i’w gwella.

Ond pan mae ffigwr cyhoeddus o bwys yn beirniadu gwaith blwyddyn gan bobl ddiffuant cyn darllen y gwaith yn fanwl, dim beirniadaeth ydi hynna, ond llond llaw o fwd ar gyfer miri’r cyfryngau.

***

Mae anghytuno efo Seimon Brooks yn fater gwahanol!  Dim achos i mi ei ystyried yn ffrind, ond achos bod gen i deimlad anghyfforddus (anghyfforddus iawn!) iddo fod yn glyfrach na fi.

I roi hynny yn ei gyd-destun, ges i’r rhan helaeth o fy addysg mewn ysgol breswyl yn Lloegr – ysgol fonedd, fel maen nhw’n dweud, er bod hynny’n gwneud i mi gochi a brysio i ychwanegu mai ysgoloriaeth oedd gen i, a bod fy rheini yn gweithio tramor mewn swyddi oedd yn talu gweddill y costau – mae diffyg llwyau arian difrifol yn fy ‘ngheg i, yn anffodus, er bydda i’n trio ffitio i mewn unrhyw rai wyt ti’n teimlo fel anfon ataf fi…:-)

Mewn ysgol felly, mae trefn ymerodraeth Brydain yn gweithio’n galed iawn i dy argyhoeddi di bod neb yn gallu bod yn glyfrach na chdi, mai chdi bydd yn etifeddu’r byd, ac mae unrhyw un sydd yn honni bod yn glyfrach na chdi trwy ddiffiniad yn wirion bost, yn enwedig os ydyn nhw’n ddigon ffol i siarad ieithoedd ar wahân i’r Saesneg (sydd wrth gwrs yn beth gwirion i’w wneud!).

Wnes i ymwrthod â’r propaganda, am mod i’n bur?

Duwcs, naddo siwr.  Dwi’n cofio Richard Glyn yn dweud wrtha i fod gen i ‘Hyder y Sais’ (a bod hi’n hawdd iawn cyfieithu fy Nghymraeg i’r Saesneg am fod gen i ddim cystrawen naturiol Cymraeg o gwbl – dydy Richard ddim yn un am wenieithio!) – ac mae’n iawn.

Ond Brooks – wel, de, ‘sai fo ddim yn ffrind byddwn i’n ei osgoi fel y pla rhag i mi fod yn iawn amdano fo.

Ac mae Seimon yn meddwl bod y Tasglu (ew, dw i ‘di mynd yn hoff o’r gair yna!) yn enghraifft o’r Llywodraeth yn estyn yn rhy bell, yn ymyrryd lle ddylai hi ddim – yn paratoi o bosib at fwlio’r Eisteddfod, a bod rhaid i’r Eisteddfod gadw ei hannibyniaeth.

Dw i ddim yn anghytuno’n llwyr, wrth gwrs.  Mae’n bwysig iawn i’r Eisteddfod gadw ei hannibyniaeth – ac mae’r ffaith bod yr Eisteddfod yn derbyn tua 12 i 15% o’i hincwm o’r Llywodraeth yn iach iawn, gyda llawer iawn o ffynhonellau eraill (er, yn anffodus, mae llawer o’r ffynhonellau hynny yn anodd ei rhagweld, sydd yn creu pwysau ychwanegol sylweddol ar yr Eisteddfod).  Mewn cymhariaeth, fel darllenais i mewn annerch gan Carwyn Jones eleni, mae’r sector amaethyddol yng Nghymru yn derbyn tua 80% o’i incwm, efallai cymaint â £350,000,000, o gyfeiriad Ewrop.  Dyna i ti sector sydd angen mwy o annibyniaeth, fel mae llawer o ffermwyr yn gweithio’n galed iawn i’w chreu.

Ond o ran y Llywodraeth yn ymyrryd, dwi’n anghytuno (yn betrus) efo Seimon.

Fel y diffyg sydd gynnon ni efo’r cyfryngau yng Nghymru, mae gynnon ni ddiffyg hefyd yn wleidyddol.

Mae’r Cynulliad wedi ffurfio i ryw raddfa ar batrymau digon hyll ac aneffeithiol San Steffan, i ryw raddfa ar batrymau cynghorau sir (sydd ddim fel arfer yn enghreifftiau o ddemocratiaeth i godi’r calon!) – ac mae un peth yn boenus o amlwg, sef nad oes digon o allu craffu ar benderfyniadau’r Llywodraeth, o bell ffwrdd.

Mae nifer o atebion posib i hyn – dw i’n hoff iawn o syniad Ned Thomas o gael Senedd i’r Cymry (hynny yw, dinasyddion y wlad hon sydd yn siarad y Gymraeg) – ond mae hefyd angen ystyried cynyddu nifer yr aelodau, edrych yn fanwl ar y cydbwysedd rhwng yr aelodau etholedig a’r gweision sifil (rhywbeth ges i brofiad chwerw iawn ohoni pan o’n i’n gweithio gyda dotCYM), ac yn gyffredinol tyfu fel democratiaeth.

Ond fydd yr un o’r pethau hynny yn digwydd yfory.

Yn y cyfamser, yn byw yn 2013 a mwy na thebyg heb fawr o newid strwythurol yn 2014, mae unrhyw ymdrech i wella’r patrymau yn haeddu ei gefnogi.  Enghraifft o ehangu democratiaeth roedd y Tasglu, a’r Grwp Gorchwyl ar ddysgu’r Gymraeg – y math o enghraifft gall helpu arwain at ddemocratiaeth cryfach, mwy aeddfed yn ein cenedl.

Roedd yn anymarferol yng nghyd-destun gwleidyddiaeth y Cynulliad i Leighton Andrews dynnu grwp at ei gilydd o gefndiroedd gwahanol, a rhai ohonyn nhw efo barn roedd o’n gwybod o flaen llaw ei bod yn wrthwynebus i’w farn o.  Prin iawn ydy’r gwleidyddion gyda’r math yno o ddewrder – efo awydd real i greu trafodaeth real – mae gormod o lawer o wleidyddion yn ystyried barn gywir yn rhywbeth sy’n perthyn i’w plaid nhw yn unig.

Wedyn, aeth Leighton Andrews ati i bwysleisio wrth y grwp nad oedd o isio i ni feddwl mewn termau o arbed arian yn unig – rhywbeth oedd wedi bod yn fan gychwyn i’r rhan helaethaf ohonom ni – ond i feddwl, gan dderbyn tystiolaeth a mewbwn eang iawn oddi wrth y cyhoedd ac oddi wrth arbenigwyr, am syniadau er mwyn gwella a chryfhau’r Eisteddfod.  Doedd y grwp erioed o dan yr argraff y byddai’r argymhellion terfynol yn cael eu gorfodi ar yr Eisteddfod – wrth gwrs, mae gwleidyddion yn medru camarwain pobl, ond ar y cyfan pan maen nhw’n bwriadu gwneud hynny, tydyn nhw ddim yn casglu ac yn rhoi llwyfan i bobl sydd yn anghytuno â nhw.

Fel ti’n gwybod, mae gen i duedd i fwydro.

Af i ddim ati i amddiffyn yr adroddiad llinell wrth linell – dim hyd nes bydda i wedi gweithio allan sut i roi clo rhithiol ar dy ddrws, beth bynnag.

Ond mae dau beth hoffwn i ddweud i orffen.

Mae’r argymhelliad am Gyfarwyddwr Artistig wedi taro John Davies fel rhywbeth dibwys.  Dydy o ddim.  Mae Cyfarwyddwr Artistig efo’r grym i arwain gŵyl efo gweledigaeth a chyffro yn rhan annatod o bob ŵyl rhoddodd dystiolaeth i ni, ac yn un o’r pethau roedd yr Athro Terry Stephens (sydd a phrofiad trawiadol iawn o’r maes) yn hollol sicr roedd dybryd angen ar yr Eisteddfod er mwyn cystadlu mewn dyfodol bydd yn fwy gystadleuol bob blwyddyn, ddim yn llai.

Mae’r argymhelliad am gasglu data er mwyn targedu marchnata’r Eisteddfod yr un mor bwysig.  Mae holiaduron yr Eisteddfod ei hun yn dangos nad ydi’r £100,000 maen nhw’n gwario ar farchnata yn gyfrifol am ddenu trwch yr ymwelwyr – hynny yw, mae’n methu.  Mae’n amhosib dadansoddi’r ffigyrau sydd ar gael yn bresennol yn berffaith, ond pan bydd sustemau newydd yr Eisteddfod (ges i gyfarfod hynod ddifyr, hynod galonogol gyda rhai o swyddogion arbennig yr Eisteddfod ar y pwnc yma) yn eu galluogi i gasglu’r data, mae’n edrych yn hollol blaen i mi (o fod wedi treulio oriau yn craffu ar y ffigyrau amlinellol sydd ar gael hyd heddiw) y byddant yn dangos rhywbeth annisgwyl – rhywbeth bydd yn amddiffyn yr Eisteddfod yn erbyn y cyhuddiad cyson bod angen denu mwy o bobl di-Gymraeg.

Bydd yr ystadegau llawn yn dangos mai canran isel iawn o siaradwyr Cymraeg sydd yn mynychu’r Eisteddfod yn gyson.  Byddant yn dangos bod marchnad amlwg o bobl sydd yn mynychu am 2 neu 3 diwrnod gall eu hannog i dreulio diwrnod neu ddau arall yn yr Eisteddfod.  Byddant yn dangos y bydd hyn yn rhatach ac yn fwy effeithiol ac yn cynhyrchu mwy o arian nac annog pobl sydd yn gwybod dim am yr Eisteddfod, dim am y Gymraeg, i fynychu am ddiwrnod.

Hynny yw, byddant yn dangos bod dybryd angen Cymreigio’r Eisteddfod, ysbrydoli a denu mwy o siaradwyr Cymraeg, cyn unrhyw feddwl am dargedu’r di-Gymraeg.

Ac mae hynny’n ddadl amddiffynol sydd wedi bod angen ar yr Eisteddfod yn gynyddol yn y blynyddoedd diwethaf.

Sori – dau beth ddudes i, ‘do?  Tri o’n i’n meddwl…;-)

Es i mewn i’r grwp, sori, i’r Tasglu yn aelod o Blaid Cymru – erioed wedi pleidleisio dros neb arall.

Fydd hynna ddim yn newid tra bydd y dewis fel ag y mae rwan hyn.

Dwi’n mawr obeithio y bydd Leanne Wood yn ennill yn y Rhondda yn yr etholiad nesaf – dw i’n credu y byddai hynna yn trawsnewid natur gwleidyddiaeth ein gwlad.

Ond dw i hefyd yn mawr obeithio y bydd Leighton Andrews yn cael ei ethol – trwy’r rhestr rhanbarthol os ydi hynna hyd yn oed yn fathamategol posib.  Mae’n Cynulliad ni, mae’n cenedl ni, dybryd angen gwleidyddion sydd yn fodlon cael eu herio ac yn fodlon chwilio am farn groes, ac yn fodlon annog a derbyn cyngor o tu allan i’w pleidiau eu hunain.

Does dim llawer o wleidyddion felly yng Nghymru.  Dw i mor ddrwgdybus ag erioed o’r Blaid Lafur yng Nghymru fel y cyfan, ond waeth i mi gyfaddef fo ddim – dwi’n credu yn gryf y byddai colli Leighton Andrews yn ergyd.

***

O – oes gen ti fwy o amser sbâr na John Davies?  Wel dyma chdi:

http://wales.gov.uk/topics/welshlanguage/publications/national-eisteddfod-report-and-recommendations/?lang=cy

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s