Faint o oriau cwsg sy’n cael eu colli dros y Gymraeg yn genedlaethol?

sleepy_mk

Dan ni’n mesur bob math o batrymau iechyd eraill – gorbwysdra, ymarfer corff, pwysau gwaed – ond tybed faint o oriau cwsg (un o’r pethau pwysicaf i fywyd cynhyrchiol a hapus) sy’n diflannu wrth i bobl bendroni am ddyfodol ein hiaith, a dyfodol ein plant sydd yn ei siarad?

Dyma hi’n chwarter i bump bore dydd Sadwrn – ges i fy neffro gan ein mab Beuno Llŷn wrth i Catrin roi cais (aflwyddiannus, wrth gwrs!) ar setlo fo yn y ‘gwely mawr’ – mae o’n cysgu’n braf eto yn ei wely ei hun erbyn hyn, mae Catrin wedi mynd yn ôl i’r gwely gwersylla yn fy ‘swyddfa’ lle mae hi’n trio ei gorau i gael ambell awr heb blentyn yn ei deffro hi – a dwi’n sownd yn fan hyn, efo swn y cloc yn tician a dim gobaith mul cysgu eto achos bod fy mhen yn troi wrth feddwl am gymunedau Cymraeg o bob math.

Mae cân gan Fflur Dafydd yn disgrifio rhywbeth tebyg (hyd yn oed cyn iddi gael babi, dw i’n meddwl!) – dw i ddim yn cofio’r enw, ond mae’r llinell ‘Sut dw i fod i newid y ‘stadegau ‘ma i gyd?’ yn gweithio ar y cyd efo swn y cloc i chwalu fy ngallu i lithro nôl i’r drwmgwsg o’n i’n rhochio’n hyfryd ynddi tan hyn.

Bai y blog ‘ma ydi hyn.  Hebddo, byddai fy meddwl ar bethau yn ymwneud â’r cwmni, a dw i ‘di dysgu sut i ddiffodd y rheina gyda’r nos.

Ond mae cwestiwn yn fy mhoeni:

Oes angen i ni estyn ein diffiniad o gymunedau Cymraeg, er mwyn achub y rhai daearyddol?

Mae bai ar Manon, hefyd, oedd yn trafod hyn ar Facebook ddoe, a wnaeth hefyd ganmol fy mlog Saesneg ac felly codi digon o gywilydd arna i am flogio yn y Saesneg a dim yn y Gymraeg i mi deimlo bod rhaid gwneud rhywbeth amdani.  Mi anfona i fil ati am yr oriau di-gwsg yma, dyna fyddai orau.

Mi wn fod rhai wedi awgrymu bod brwydr yr iaith drosodd am fydd y We yn ein hachub ni.  Mae hynny fel dweud bod brwydr yr iaith drosodd am fydd trydan yn ein hachub ni – teclyn ydy’r We, a fydd ei bodolaeth ynddo’i hun yn gwneud dim os na wnawn ni ddefnydd effeithiol ohono fo.

Roedd Maes-E.com yn hynod bwysig wrth ddangos bod modd codi cymuned hollol Gymraeg ar y We – ac wedyn, i bob pwrpas, er gwaethaf ymdrechion teilwng iawn pobl fel Hedd Gwynfor (unwaith bod Nic Dafis wedi blino, yn hollol ddealladwy), dyma Facebook yn lladd yr hen Faes.

Mae Facebook yn agor posibiliadau i ni – ond mae hefyd yn creu fframwaith lle mae hi bron yn amhosib bod yn uniaith Gymraeg heb feddwl amdani, am fod gynnon ni gyd ffrindiau sydd ddim yn siarad Cymraeg.  Ond o’r hyn dw i’n ei weld ar y funud, mae mwy o drafodaeth i’w gael ar Facebook (lle dydy’r pwysau i ddwyieithogi byth yn cilio’n llwyr) na sydd ar y rhan helaethaf o flogiau lle mae’r Gymraeg yn normal, heb neb bron i dorri’n groes.

Ond dim cwyn yn erbyn Facebook ei hun mo hyn.

Dw i’n dal i feddwl am y 300,000 mae’r poliau piniwn yn dweud wrthon ni sydd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru – ac sydd hefyd, mi fedran ni fod yn bur sicr, yn debycach o lawer na’r norm gymdeithasol i fod ag awydd gwneud rhywbeth o blaid y Gymraeg.

Pam, yn yr oes ohoni, ydan ni’n methu eu cyrraedd nhw?

Wrth gwrs, dwi’n gwybod fawr dim am ystadegau cyrff eraill – roedd Cymuned yn cyrraedd (trwy ebyst a llythyrau) mymryn dros 2000 ar ei anterth – dw i wedi clywed bod y Blaid yn medru ebostio tua 5000, ond tynnu sylw at waith ymgyrchu etholiadol ydy’r rhan helaeth o ebyst dw i’n derbyn ganddyn nhw – dw i’n cymryd bod y Gymdeithas efo cryn dipyn, ac wedi gwneud rhywfaint o waith gwerthchweil iawn efo ffurflenni yn cefnogi ymgyrchoedd penodol iawn, ond yn sicr mae bwlch yn y dilyniant dw i wedi cael ganddyn nhw.  Mae’r Eisteddfod efo cronfa ddata efo oddeutu 30,000 mil o enwau arni, o beth dwi’n dallt – ond pryd oedd y tro diwethaf i mi gael ebost ganddyn nhw?  Gen i’m syniad.  Mae SaySomethinginWelsh.com yn cyrraedd tua 13,000 o ddysgwyr yr wythnos, ac yn rhannu newyddion am rai pethau lled-wleidyddol, ond rhaid cadw dysgu’r Gymraeg yn groesawgar i bawb, gwleidyddol eu naws neu beidio.

Wedyn, mae modelau fel Avaaz.org – mae Mari Glwys, yn 8 oed, wedi llwyddo i gael dros 1000 o lofnodion ar ei hymgyrch yn erbyn Sainsbury’s am amharchu’r iaith – gyda chefnogaeth o Wlad Pwyl a’r Ariannin, ymysg eraill.

https://secure.avaaz.org/en/petition/Make_Sainsurys_respect_the_Welsh_Language/

Mae nifer o bethau diddorol iawn am hyn.  Yn gyntaf, ymgyrch hogan ifanc oedd o (gyda rhywfaint o gefnogaeth technegol ei thad!) – sydd yn dangos (efo pob parch i Dewi!) nad oes angen sgiliau technegol mawr i gychwyn syniad, neu ymgyrch, ar y We.  Ond yn ail, lle roedd y rhwydweithiau o gefnogaeth iddi?  Oes wir dim ond mil ohonom ni sydd yn cytuno y dylai Sainsbury’s wneud mwy o ymdrech?  Dw i ddim yn awgrymu mai dyma’r ymgyrch bydd yn achub yr iaith – ond dydy un ymgyrch ddim yn achub yr iaith dim mwy nag un gân.  Siawns bod ni gyd yn cytuno efo Mari, ‘ddo?

Lle roedd yr ebyst oddi wrth Plaid Cymru, a’r Gymdeithas, a’r Eisteddfod, a Merched y Wawr a Rhieni dros Addysg Gymraeg yn ymledu’r ddeiseb?  Roedd unigolion yn ei wneud, ar Facebook a Twitter – ond nid yn unig ydan ni heb rwydweithiau digon mawr, mae’r rheina sydd gyda ni yn araf wrth ymledu pethau maen nhw’n eu gweld yn ymylol.  [Wrth gwrs, os oedd ebyst swyddogol oddi wrth rhai o’r cyrff yna, a finnau wedi methu nhw yn fy nryswch dyddiol arferol, dw i’n ymddiheuro!].

Mae cymunedau Cymraeg bychan, ar wasgar, ar y We – yn efelychu sut mae’n cymunedau Cymraeg daearyddol wedi mynd ar chwal hyd nes bod rhaid mynd a chwyddwydr i lefel ward etholiadol i gael hyd o gymunedau efo dros 90% o siaradwyr, a lle does nunlle (gan gynnwys Pen Llŷn, Penyberth, Tryweryn, Caernarfon) lle nad oes cymunedau Saesneg yn tyfu ac yn ymrymuso.

Mae Ned Thomas yn iawn bod angen Senedd i’r Cymry – mae Adam Price yn iawn bod angen awdurdod unedig ar gyfer y Fro Gymraeg – mewn undod mae nerth.

Ond mae dybryd angen cymuned Gymraeg integredig, unedig, ar y We – cymuned sydd yn ymledu’r holl syniadau dan ni’n cynhyrchu (mewn cynhadleddau neu ganeuon neu gerddi neu yn oriau tywyll canol y nos) at bawb sydd yn ysu cael gwneud gwahaniaeth.

Mae cymunedau arlein yn gallu newid y byd – mae Avaaz.org wedi profi hynny tu hwnt i unrhyw amheuaeth.  Mae rhaglennwyr ifanc Cymraeg (a rhai sydd ddim mor ifanc!) gyda’r gallu technolegol i adeiladu beth bynnag sydd angen.

Sut dan ni’n mynd i roi cychwyn arni?

Mae yn dy ddwylo di rwan.  Duw a wŷr dw i angen rhoi cais arall ar gysgu (cyn deffro mewn cywilydd a dod yn ôl at hyn efo teclyn To Bach a llun del o rywle…;-)).

Advertisements

4 o sylwadau am “Faint o oriau cwsg sy’n cael eu colli dros y Gymraeg yn genedlaethol?

    1. Diolch, Jon. Mae’r pethau bychain yn bwysig – dw i wastad wedi gweld hynny’n neges i bobl wneud unrhyw beth yn hytrach nag anobeithio – ond rhywsut, mae’n rhaid cael atebion i’r problemau mawr, hefyd.

  1. Diolch, Marconatrix! Dwi’n siarad eithaf dipyn efo pobl fel Rhodri a Carl, ac yn gefnogol iawn i Hacio’r Iaith. Efallai bod angen teclyn penodol fel sail i drafodaeth pellach, ‘ddo…

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s