Beth ydi pwrpas ysgrifennu yn y Gymraeg?

Cymraeg graffiti
Cymraeg graffiti (Photo credit: Walt Jabsco)

Dim o ran llyfrau neu bapurau bro neu gylchgronau neu ffurflenni neu arwyddion – yn y byd cyfoes, mae iaith heb bresenoldeb gweledol yn gorfod bod yn is-raddol.

Yr hyn dw i’n holi fy hun ydy beth ydy pwrpas i mi ysgrifennu blog yn y Gymraeg?

Dywedais yn y cofnod cyntaf fod o’n iawn – bod trafodaeth Richard a Seimon yn y Penlan Fawr, a’r rhagair i’w cyfrol diweddaraf, wedi gwneud i mi sylwi bod angen gwneud yr ymdrech – ac mae hynny’n wir o hyd.  Dw i ddim yn dioddef rhyw sobri annisgyl, rhyw ddiffyg cyffuriau yn troi’r byd yn HD unwaith eto.

Ond ydy hi’n ddigon i fod yn taflu rhyw ychydig o eiriau Cymraeg ychwanegol ar domen y We Gymraeg?

Efallai bydda i’n mynegu fy hun yn well wrth gymharu’r profiad gydag ysgrifennu fy mlog Saesneg.

Mae pwrpas clir i fy mlog Saesneg.

Dw i’n ei ysgrifennu ar gyfer dysgwyr y Gymraeg ac ieithoedd eraill sydd â diddordeb yn ein cwmni – sut dan ni’n gweithredu, pa gynlluniau sydd ar y gweill, beth dan ni’n ffocysu arni o ddydd i ddydd – a hefyd, am fod ein dysgwyr wedi ffurfio’n gymuned ac mae cymunedau yn gweld gwerth mewn unigolion, mae rhywfaint o chwilfrydedd gan rai ohonyn nhw ynddo fi fel person (sydd yn cyfiawnhau rhywfaint o ysgrifennu pur hunanganolog!).

Ond beth, felly, ydy pwrpas y blog hwn?

Os mai dim ond gwneud i fi fy hun deimlo mod i’n ‘gwneud cyfraniad’, ni fyddai hynny yn ddigon da.  Mae Joshua Fishman yn nodi bod y byd yn llawn o garedigion ieithoedd lleiafrifol sydd yn gwneud yr hyn sydd yn ymddangos yn bosib, yn hytrach na’r hyn sydd wirioneddol ei angen.

Os mai trafod fy hun er mwyn diddori’r llond llaw o bobl sydd yn difaru methiant Cymuned (hyd yma!), neu er mwyn rhoi tanwydd i ambell un byddai’n falch o gael taflu mwd a dathlu methiant Cymuned (hyd yma!), does gen i’r un mymryn o ddiddordeb yn ei wneud.

Os mai ymarfer fy Nghymraeg ysgrifenedig, efallai byddai hynny’n deilwng – ond ar wahân i flogio, does gen i ddim rheswm i fod angen gwella fy Nghymraeg ysgrifenedig – ac mae’n bur debyg y byddwn i’n gwneud yn well yn hynny o beth trwy ddarllen yn ehangach, neu dderbyn hen gynnig difyr iawn Jerry Hunter i mi wneud MA rhan amser yn y Gymraeg.

Ysgrifennais flog am gyfnod rhai blynyddoedd yn ôl, o’r enw Mympwy – ia, un o fy hoff eiriau yn y Gymraeg! – ac roedd pwrpas hwnnw yn glir i mi.  Roedd arna i awydd codi trafodaeth am nifer o syniadau polisi roeddwn i’n eu gweld yn bwysig i’r mudiad Cymuned weithio yn eu cyd-destun, ac roeddwn i’n gobeithio denu mwy o bobl at y mudiad er mwyn cyflawni rhywbeth yn eu cylch.

Cafwyd drafodaeth digon diddorol ar y blog o dro i dro, ond methodd yn llwyr o ran atgyfnerthu’r mudiad.  A’r gwir plaen oedd i mi redeg allan o syniadau newydd, hefyd – mae creu rhest hir o bethau dach chi’n credu sydd angen eu newid, a dim un ohonyn nhw yn newid, yn troi’n ddiflas yn fuan iawn.

Ga i hyd o rywbeth gwahanol y tro hwn – rhyw werth i mi ysgrifennu yn y Gymraeg?

Dw i ddim yn siwr.

Does gen i ddim diddordeb pellach mewn codi syniadau polisi.  Dw i’n credu bod hen ddigon o syniadau polisi rhagorol yn bodoli eisoes – dw i’n credu bod pob syniad polisi sydd ei angen er mwyn gwrthdroi shifft ieithyddol Cymru eisoes wedi’i gyflwyno i’r cyhoedd, i ymgyrchwyr, i’r Llywodraeth – ond bod diffyg awydd eu gweithredu.

Ond mae un peth yn cosi yng nghefn fy meddwl.

Ers i mi fod yn gweithio efo’r cwmni iaith SaySomethingin, yn cael y profiad o gydlynu deunydd a chefnogaeth a chyfathrebu ar gyfer dros 30,000 o ddysgwyr o gwmpas y byd, mae wedi bod angen i mi ddysgu llawer iawn o bethau newydd.

Yn bennaf oll, dw i wedi bod yn dysgu am sustemau arlein, am seicoleg grwpiau mawr, am ddulliau cyfathrebu a dysgu, am gydlynu timoedd, ac am sut mae nifer fach iawn o bobl yn medru cael effaith mawr iawn.

Does dim diffyg syniadau polisi ar gyfer y Cymry.

Ond mae diffyg sustemau – diffyg rhwydweithiau anferth – diffyg cyfryngau (er bod trefn cylchgrawn arlein yn hawdd i’w chodi heb dalu ceiniog) – diffyg patrymau i sicrhau y byddwn ni’n ennill yr hyn sydd angen ei ennill.

Dw i ddim, am eiliad, yn dilorni’r holl ymgyrchwyr sydd yn gweithio mor galed o’n plaid ni, yr oedd yn gymaint o bleser bod yng nghwmni rhai ohonyn nhw nos Fawrth diwethaf – lle byddwn ni heddiw heb Gymdeithas yr Iaith, heb Blaid Cymru, heb Rieni dros Addysg Gymraeg, heb Ferched y Wawr, i enwi ond rhai?

Ond yn gyson iawn, mae poliau piniwn yn dangos cefnogaeth o ryw 10% ar gyfer annibyniaeth i Gymru.  300,000 o bobl sydd mor drawiadol o radical y maen nhw isio rhywbeth sydd ddim hyd yn oed yn cael ei drafod o ddifrif yn y wlad hon, er gwaethaf gonestrwydd braf Leanne Wood.

Lle mae’r drefn i’r 300,000 glywed syniadau ei gilydd, drafod gyda’i gilydd, gydweithio gyda’i gilydd?

Os mai rhyw ddwsin o bobl diffuant yn medru dysgu ieithoedd i dros 30,000 o bobl, does dim dwywaith ond bod 300,000 o bobl yn medru ennill dyfodol disglair i Gymru.

***

Rhoddaf gais, dw i’n credu, ar gynnig ambell syniad ar y blog hwn – dim am bolisiau, ond am gamau ymarferol er mwyn ennill – syniadau fel hadau dant-y-llew, yn y gobaith gall un lanio yn rhywle lle gwneith wahaniaeth.

Efallai mai dyna bydd yn rheswm teilwng i mi ysgrifennu yn y Gymraeg.

Advertisements

4 o sylwadau am “Beth ydi pwrpas ysgrifennu yn y Gymraeg?

  1. Mae’r ffaith dy fod di yn gofyn y cwestion yn symptom amlwg o’r broblem wrth y Cymry Cymraeg. Pa broblem? — Taeogaeth yn syml. Ailraddiaeth, diffig hunan-barch fel pobol arbennig, fel cymuned o siaradwyr.

  2. Dwi ddim yn anghytuno bod problemau o ran diffyg hunanbarch ymysg y Cymry – mae’r ffaith bod nhw’n tueddu i gyfeirio atyn nhw eu hunain fel y Cymry Cymraeg yn arwydd digonol o hynny! – ond dwi ddim yn argyhoeddiedig bod cwestiynu pwrpas blogio yn y Gymraeg yn symptom o hynna.

    Hynny yw, dwi’n falch iawn o fy ngallu i gyfathrebu yn y Gymraeg – ac yn ei gwneud trwy’r dydd bob dydd – ond i mi ddal ati i flogio, mae angen pwrpas – mewn unrhyw iaith. Mae’r pwrpas hynna yn amlycach yn y Saesneg – pe bae modd creu pwrpas yr un mor amlwg ar gyfer y Gymraeg, dwi’n siwr y byddai mwy o bobl yn blogio yn y Gymraeg…:-)

    1. Wel, y cwestion cynta i bob lenor ydi, “Be sy gynnoch chi i’w ddeud?” Ond wedyn, pwrpas ysgrifennu yn y Gymraeg ydi cyfathrebu wrth eich cyd-Cymry yn arbennig, run beth â siarad Cymraeg. Os nad oes dim gynnoch chi i’w ddeud i’r rheina, jyst peidewch â sgwennu.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s