Pa beth yr aethoch allan i’w achub?

Percentages of Welsh speakers in the principal...
Percentages of Welsh speakers in the principal areas of Wales. Based on the GFDL Image:WalesNumbered.png. (Notice that no principal area falls within the 37,5-50% range!) Based on 2001 census data. QuartierLatin1968 02:30, 6 September 2005 (UTC) (Photo credit: Wikipedia)

Roedd hi’n braf iawn gweld Seimon Brooks a Richard Glyn yn lawnsio’r gyfrol maen nhw wedi’i golygu a’i chyhoeddi yn ddiweddar, ‘Pa beth yr aethoch allan i’w achub?’, yn y Penlan Fawr ym Mhwllheli neithiwr – tafarn sydd ag un o’r awyrgylchoedd mwyaf hyfryd o Gymraeg yn y wlad gyfan, am wn i. Dim ond y rhagair dw i wedi’i ddarllen hyd yma, ond mae wedi taro fi yn syth fel cyfrol anarferol a phwysig – ac mae hefyd wedi gwneud i mi deimlo’n ymwybodol iawn o ba mor hir mae wedi bod ers i mi flogio yn y Gymraeg.

Roedd yn hynod braf hefyd gweld hen ffrindiau yn y Penlan Fawr – Seimon a Richard eu hunain, wrth gwrs, ond hefyd Llion Jones fuodd yn aelod mor weithgar o Gymuned, Barry Thomas oedd yn cyflwyno’r noson (ond er mawr siom i mi dim yn canu ei fersiwn anfarwol o ‘No Woman No Cry’, sef ‘Dim Dynas Dim Llnau’ – mae Catrin yn dweud bod y gan yn ddigon doniol i mi gael caniatad i chwerthin), Osian Jones o Gymdeithas yr Iaith (y tro cyntaf i mi ei weld o ers iddo dreulio amser yn y carchar drostom ni gyd, dwi’n cofio rwan), Jina Gwyrfai oedd yn un o aelodau cleniaf Cymuned, Iwan Edgar (sydd wastad wedi bod yn ffynhonell cyson o gyngor a chefnogaeth) a’i fab Lludd sydd mor annwyl ag erioed, a phobl eraill dw i â pharch mawr tuag atyn nhw fel Menna Machreth, Rhys Llwyd a Ned Thomas.

Mae wastad yn arbennig o deimladol i mi weld Ned Thomas, er prin iawn ydw i’n cael y cyfle i’w wneud – nid yn unig am iddo fod yn ddarlithwr arbennig pan o’n i’n astudio Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth, ond am iddo nabod darlithwr arall yn yr adran, Duncan Isles, daeth yn llys-dad i mi ac yn ddad pwysicaf fy mywyd.  Prin iawn ydw i’n cyfarfod pobl oedd yn nabod Duncan erbyn hyn – mi gollon ni fo i gancr dros ddeng mlynedd yn ôl – ac mae ysgwyd llaw Ned a chyfnewid ambell air yn cofio Duncan yn golygu llawer iawn i mi.

Mwydro ydw i hyd yma, mi wn.

Ond roedd gweld yr holl ymgyrchwyr ymrwymiedig yn atgoffa fi o’r dyddiau a fu pan fues i am gyfnod yn rhan o’r mudiad iaith – ac roedd y croeso a’r cyfeillgarwch yn ddigon i atgoffa fi nad oedd y cyfnod hwnnw yn ddu i gyd, er mor anodd roedd o ar adegau.

Gofynnodd Osian os fyswn i’n ystyried dod ar bwyllgor i wrthwynebu Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd – ac yn hynny o beth, mi oedd yn bechod mawr nad oedd unrhyw un o wleidyddion blaenllaw Plaid Cymru yng Ngwynedd wedi cymryd yr amser i fynychu’r noson – ac o dan ddylanwad cyffuriau cryf iawn dwi’n cymryd dyddiau hyn at ryw drafferth efo fy nghefn, a’r cyffro o fod wedi cyflogi datblygwr we llawn amser ar gyfer fy musnes dysgu iaith, mi wnes i gytuno i roi fy nghyfeiriad ebost i Osian, ac i wneud hynny byddai modd i mi.

Mi oedd Osian yn ei hwyliau, ac mi ydw i bellach yn ddyn teulu efo dau blentyn ifanc, ond os bydd o dal isio mewnbwn gen i unwaith daw golau dydd eto, mi gyfranna i hynny medraf.

Ac yn y cyfamser, dw i am fentro i sgwennu yn y Gymraeg eto.

Dw i’n cynnal blog newydd eithaf cyson yn y Saesneg ar gyfer ein dysgwyr Cymraeg a chefnogwyr eraill sydd yn helpu datblygu ein cwmni bach ond sydd ddim yn siarad y Gymraeg – a’r gwir ydi, wrth gwrs, mae’r Saesneg yn fam iaith i mi ac yn iaith dw i’n medru ei thrin yn gyflym ac yn gyfforddus.

Nid felly mae’r Gymraeg.  Hi ydi iaith fy nghalon, ac iaith fy aelwyd; iaith fy nghariad tuag at fy mlant a’m gwraig; iaith newidiodd fy myd.

Ond nid yw hi o dan fy meistrolaeth, o bell ffwrdd – ac mae sgwennu heb reolaeth llwyr, yn ymwybodol y daw camgymeriadau, yn gweithio o fewn ffiniau cymaint yn fwy gyfyngedig na iaith gogoneddus, grymus Seimon a Richard, yn teimlo fel gollwng ddeugain o flynyddoedd ac eistedd eto ar lawr y dosbarth heb syniad yn y byd sut byddai modd i mi fod o werth fy hun.

Dyna, wrth gwrs, yr her seicolegol mae unrhyw ddysgwr yn ei wynebu – colli hyder a gallu yr oedolyn er mwyn baglu ac is-raddio eu hunain mewn iaith arall – mae iaith mor ganolog i’n hunaniaeth a’n hunan-werth, mae mynd heb dy iaith rugl fel gorfod cau dy lygaid am ddiwrnod, neu glymu dy ddwylo tu ôl i dy gefn.

Fydda i byth, am wn i, yn blogio yn Sbaeneg – iaith dw i’n gallu cynnal sgwrs digon difyr ynddi – am nad oes rheswm gen i ddioddef y fath yna o rwystredigaeth.

Ond mae’r Gymraeg, wrth gwrs, yn achos arbennig.

Mae angen caredigion ar y Gymraeg ymysg y rhai sydd yn medru mynegu ei holl harddwch, y rhai sydd yn baglu rhywfaint, hyd yn oed y rhai sydd ond yn medru ambell air.

Ac felly mi glyma i fy nwylo tu ôl i fy nghefn ieithyddol, ac mi af i ati i rannu straeon a syniadau yn fan hyn – yn y gobaith y byddant yn esgor ar drafodaeth, ac yn y gobaith y bydd rhai ohonoch chi ddarllenwyr caredig yn fodlon cymryd yr amser i gywiro rhywfaint ar fy nghamgymeriadau.

Mi sonia i rywfaint, mae’n siwr, am Cymuned – sut nad ydy hi wedi marw, a sut dan ni hyd yn oed yn meddwl y gall fod pethau gwerthchweil i’w gwneud efo hi yn y dyfodol – a sut mae cyfle i’w hariannu, hyd yn oed!

Ond mewn ffordd, er mai fi sydd â’r cyfrifoldeb yn swyddogol, dw i’n teimlo bod Cymuned yn perthyn i amser ers talwm – cyfnod yn fy mywyd pan nad oedd plant gen i, pan nad oedd busnes dysgu Cymraeg a Sbaeneg gen i, pan nad oeddwn i wedi dysgu’r amynedd sydd yn dod gyda’r plant (a’r busnes!).

Bydda i hefyd, felly, yn codi ambell sgwarnog arall, wrth i’r fympwy fy nharo – a darllenwyr neu beidio, sylwadau neu beidio, cywiriadau neu beidio, bydda i’n teimlo mod i’n gwneud yr hyn sy’n iawn wrth ychwanegu rhywfaint yn fwy o eiriau Cymraeg ar y we fyd-eang hon gall fod yn elyn neu’n achubiaeth i ni – i’r Cymry – i’r Gymru y mae Seimon a Richard am i ni ei hachub.

11 o sylwadau am “Pa beth yr aethoch allan i’w achub?

  1. Aran, dw i’n joio’r blog eisoes.

    Dw i wedi cael teimladau tebyg iawn fel Cymro Iaith Gyntaf sydd wedi mabwysiadu’r iaith fel oedolyn. Dyma un rheswm pam dw i’n sgwennu cofnodion blog, er eu bod nhw mewn iaith ‘ansafonol’.

    Fe Godwn Ni Ein Hansawdd Iaith Eto.

    1. Diolch yn fawr iawn i ti, Carl. Dw i’n edmygu dy ymrwymiad ymarferol at yr iaith yn fawr iawn, a dw i’n credu dy fod wedi cyflawni camau pwysig iawn wrth hyrwyddo ymwybyddiaeth o dechnoleg newydd yn y cyd-destun Cymraeg, ac wrth ddyfalbarhau cystal fel blogwr Cymraeg…:-)

  2. Sgwenna yn y Gymraeg a phaid a phoeni gormod am fynegiant ac ati. Y ffordd orau i ‘sgwennu yn fwy rhwydd yn y Gymraeg ydi trwy ‘sgwennu’n aml yn yr iaith – a bod ychydig yn hunan feirniadol. Gyda llaw – mi’r oeddwn i’n fwy hyderus yn sgwennu yn Saesneg am y rhan fwyaf o fy mywyd – gradd Saesneg sydd gen i ac addysg uwchradd Saesneg ges i yn bennaf.

    1. Difyr iawn, Cai – diolch am dy sylw. Dw i’n credu bod angen i mi ddarllen yn ehangach yn y Gymraeg hefyd – ges i siom peth amser yn ol efo rhai llyfrau cafodd canmoliaeth uchel iawn oedd efo gwendidau sylfaenol – a cholli fydd braidd yn y broses adolygu llyfrau Cymraeg. Byddwn i wrth fy modd cael hyd o ffynhonell dibyniadwy o argymhellion am lyfrau Cymraeg sydd wirioneddol cystal ag unrhyw beth mewn ieithoedd eraill…

  3. “Clymu fy nwylo tu ôl i fy nghefn”, wel dim ond un ohonyn nhw, ‘falla? Ond dyna’r teimlad i’r dim, ac yn wir, mae’n hawdd teimlo yn hollol fabanol weithiau. Ond nid felly wrth dysgu unrhyw sgil newydd? 🙂

  4. Mae elfen debyg, wrth gwrs – ond does dim sgil arall y gwn i amdani sydd yn cyrraedd at wreiddiau hunaniaeth rhywun yn yr un ffordd…:-)

      1. Dibynnu ar y cyd-destun, mae’n siwr! Mae’r ddau beth yn ddwy elfen wahanol o’r gwir, wedi’r cyfan…

  5. Hi Aran
    Newydd ddod ar draws y blog yma wrth chwilio am fy hoff athro Saesneg tra oeddwn yn mynychu y brifysgol (rhai blynyddoedd yn ol ol mae rhid cyfaedde!). Doeddwn ddim yn gwybod bod Duncan wedi ein gadael ac yn drist iawn iawn i glywed. Roedd yn berson difyr a thalentog a diddordeb ganndo mewn llenyddiaeth roedd yn anodd i guro. Gadawaodd yrfa disglair mewn meddygyniaeth er mwyn dilyn ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth- a dweud y gwir dwi ddim yn meddwl wnaeth ddifaru unwaith! Dwi newydd ddeall bod Dr Ian Bell hefyd wedi ein gadael er yn gymharol ifanc- ac felly dwi’n hollol isel fy nghalon gan mae y ddau yma oedd pileri yr adran ac o bell ffordd y ddau yma oedd yn cynnal brwdfrydedd ac angerdd pob ifanc at y pwc a’i berthasedd I fywyd pob dydd

    Yn ddiffuant
    Wil Thomas

    1. Annwyl Wil,

      Diolch yn fawr iawn am eich ymateb – fel dywedais, mae bob tro yn braf cyfarfod rhywun oedd yn nabod Duncan – mae’n ddrwg calon gen i nad oedd modd i chi gael hyd o newyddion hapusach amdano fo yn fan hyn.

      Serch hynny, dwi’n falch iawn medru rhannu iddo gael bywyd eithriadol o hapus efo fy mam wedi iddo ymddeol yn gynnar – hyd yn oed yn cynnwys y saith mlyneddu bu’n brwydro yn erbyn cancr – yn eithriadol o ddewr ac urddasol, yn poeni mwy am bobl eraill nag amdano fo ei hun tan y diwrnod olaf.

      Ymysg cymaint o bethau eraill, dwi wastad yn ei gofio yn dod atom ni pan oeddwn ni’n aros fel grwp blwyddyn ar risiau Canolfan y Celfyddydau cyn y papur olaf ar y 18fed ganrif – yn llawn syniadau munud olaf ac anogaeth – tra nad oeddwn ni wedi gweld yr un o’r darlithwyr eraill. Roedd ei fyfyrwyr wastad yn golygu’r byd iddo fo.

      Diolch eto am gysylltu, Wil.

      Cofion cynnes,

      Aran

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s